CROESAWU
GERAINT THOMAS YN Y SENEDD

Dyma Isac, Math, Madog, Tomos. Efa ac Ifan yn barod i groesawu eu harwr!

Ar ddydd Iau 9fed Awst , daeth miloedd o bobl i groesawu Geraint Thomas, enillydd ras seiclo Tour de France 2018, ar risiau'r Senedd yng Nghaerdydd. Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yno yr un pryd. Roedd yr haul yn gwenu ar yr holl grysau melyn yn y dorf a daeth Band Pres Llareggub ymlaen i chwarae gan greu awyrgylch cyffrous. Daeth Branwen ac Osian Williams o'r bandiau Siddi a Candelas ymlaen hefyd i groesawu Geraint Thomas
gyda'r gân Titw Tomos Lâs. Roedd Ifan Gwilym yno, a dyma beth oedd ganddo i'w ddeud - "Roedd o'n hollol anhygoel gweld Geraint Thomas, enillydd Tour de France yn enwedig gan mai fo ydy'r Cymro cyntaf erioed i wneud hynny. Roeddem i gyd wedi ein cyffroi a phawb yn gwisgo melyn i'w gyfarch o flaen y Senedd. Roedd yr awyrgylch yn wych a phawb eisiau dathlu gyda fo! Byddaf yn cofio'r profiad am byth wrth i ni ganu'r anthem genedlaethol"

A dyma Geraint Thomas yn seiclo
efo'i gefnogwyr yng Nghaerdydd
Beth sydd nesaf i Geraint Thomas? Dos i dudalen 8!

HEDFAN
I'R HAUL
Y Parker Solar
Probe yn cael ei
lansio

Mae NASA, asiantaeth ofod yr UDA wedi lansio roced i gario chwiliedydd gofod i'r haul. Cychwynnodd y roced ar ei thaith o Cape Canaveral, Florida ar 12fed Awst, a'r bwriad ydi dod i wybod mwy am gyfrinachau'r seren anhygoel, sy'n rhoi bywyd i ni ar y ddaear. Hwn fydd y gwrthrych cyflymaf sydd wedi ei wneud gan bobl, i symud erioed, a bydd yn cyrraedd o fewn 6.16
miliwn km i wyneb yr haul.
Pam?
Bydd y chwiliedydd yn mynd mor bell â haen allanol yr haul, neu'r Corona, a bydd yn troelli o amgylch yr haul yn casglu gwybodaeth bwysig. Gyda'r data hwn, bydd gwyddonwyr yn dod i ddeall mwy am sut y gall stormydd magnetaidd o'r haul effeithio arnom ni ar y ddaear. WAW! Gwylia losgi dy fysedd!

chwiliedydd gofod - space probe

DECHRAU BLWYDDYN ARALL....

Croeso yn ôl ar ôl gwyliau haf o dywydd hyfryd ar y cyfan. Ar ôl cael mwynhau a diogi dros yr haf mae ailgychwyn ym mis Medi yn gallu bod yn sioc i’r system (yn enwedig i’r athrawon!) Ond mae mis Medi hefyd yn gallu bod yn gyfnod cyffrous lle cawn weld ein hen
ffrindiau, dod i adnabod ffrindiau newydd a chael cychwyn blwyddyn yn llawn egni a brwdfrydedd! Cofia ddarllen tudalen 6 lle mae gan Anti Dot gyngor am fod mewn ysgol neu ddosbarth newydd. Pob lwc am y flwyddyn sydd i ddod!

Mae Y Cliciadur wrth ei fodd yn clywed gen ti - diolch i bawb sydd wedi gyrru awgrymiadau ar gyfer ein stori ‘Mewn Dros dy Ben’ ar dudalen 3. Dal ati i gysylltu a phob lwc am y flwyddyn i ddod!

1

MÔR-LADRON ENWOG

Barti Ddu (Bartholomew Roberts)

Cafodd ei eni yng Nghasnewydd Bach (sir Benfro) yn 1682. Roedd yn fôr-leidr enwog gan ymosod ar longau oddi ar arfordir America a Gorllewin Affrica. Roedd yn fôr-leidr llwyddianus iawn, gan gasglu cyfoeth mawr iddo ei hun. Mae'n debyg ei fod yn ddyn lliwgar, gyda'i wasgod goch a phluen yn ei het. Ond daeth ei ddiwedd, pan gafodd ei saethu yn ei wddf ar fwrdd ei long yn 1722.

Harri Morgan

Ganwyd yn 1635 yn ne Cymru. Daeth Harri Morgan mor gyfoethog drwy ddwyn oddi-ar longau, fel y gallodd brynu 3 planhigfa siwgr yn Jamaica, a daeth yn llywodraethwr Jamaica. Ond er y rhamant, dyn creulon iawn oedd Harri Morgan. Bu farw yn 1688.

Grace O'Malley

Cafodd Grace ei geni ar arfordir gorllewin Iwerddon tua 1530. Arweiniodd lynges o 20 llong yn erbyn byddin Prydain, gan ddwyn oddi ar longau Lloegr a Sbaen. Er i'w thad ddweud wrthi nad oedd merched yn gallu hwylio, daeth Grace yn fôr-leidr enwog yn ei hamser. Mae hanes Grace i'w gael yn y llyfr Straeon Nos Da i bob Rebel o Ferch (Gomer)

DYDDIADAU I'R DYDDIADUR

Diwrnod Roald Dahl

Diwrnod Owain Glyndŵr

(edrycha ar dudalen 4)

Diwrnod Rhyngwladol Heddwch

Cyhydnos yr Hydref neu Alban Elfed

Pan mae'r haf yn dod i ben a thymor yr hydref yn dechrau bydd tua'r un maint o olau dydd a thywyllwch nos.

Mis Cerdded i'r ysgol.

Diwrnod iechyd meddwl

BAE NEU GAE?

Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni dipyn yn wahanol i’r arfer, gyda’r stondinau a’r pebyll yn agored i bawb yn ardal Bae Caerdydd yn hytrach na chael ‘Maes’ traddodiadol ar gaeau. Bu’r cystadlu’n digwydd yng Nghanolfan y Mileniwm yn hytrach na’r ‘Pafiliwn’ traddodiadol hefyd. Denodd yr Eisteddfod lawer o bobl newydd ac roedd yr awyrgylch yn gyffrous ac yn llawn bwrlwm yn ôl rhai oedd yno. Oeddet ti yno? Beth oedd dy farn di tybed?

11 DIWRNOD AR GOLL!

Yn 1753 newidiodd gwledydd Prydain eu calendr o'r calendr Julian i'r calendr Gregorian, oedd yn mesur amser yn fwy manwl. Felly wrth newid o un calendr i'r llall, yn union wedi'r 3ydd Medi, neidiodd y calendr ymlaen i 14eg Medi. Roedd rhai pobl yn flin, gan ofni fod eu hamser ar y ddaear yn llai!

2

Stori Gyfres -

MEWN DROS DY BEN

Pennod 4/6

Roedd o wedi aros iddi nosi, ac i'r stryd dawelu. Roedd Caio wedi bod yn yr hen faes parcio lawer gwaith yn edrych ar y wal uchel oedd o amgylch gardd yr hen ŵr. Ei waith ef oedd dringo'r wal i agor clo'r cawell adar, ond yn gyntaf, gyda phob dringfa, roedd yn rhaid bod yn siŵr o'r ffordd. Ym mha grac fyddai ei ddwylo'n ffitio? Pa grac fedrai o gael lle i roi ei droed? Ond fel arfer wrth gwrs, roedd y dringo'n bleser. Doedd Caio ddim eisiau dringo'r wal hon, felly fedrai o weld dim byd ond wal, uchel, a'i hwyneb yn hollol lyfn.

Arhosodd yn y cysgod am ychydig, edrychodd ar ei oriawr. 18:00. Roedd ganddo 15 munud i gyrraedd pen y wal, cyn rhoi'r arwydd i Jaco a'r ddau arall fod y drws ar agor, yn barod iddyn nhw fynd trwyddo. Chwiliodd ei law am le i gael y grip cyntaf,

yna cododd ei hun yn ofalus, gam wrth gam, ei ddwylo'n chwilio yn y tywyllwch am y gafael nesaf, ei draed yn gwthio. Teimlodd Caio ei ddwylo'n chwysu, doedd hynny ddim yn arwydd da, roedd yn rhaid bod yn dawel a pheidio â gadael i'r ofn gydio ynddo. Arhosodd am funud, roedd yn siŵr fod sŵn ei anadl yn llenwi'r nos, pwysodd ei dalcen yn erbyn carreg oer y wal, i geisio tawelu'r ofn oedd yn ei gydio. Yna, ymhell oddi tano, clywodd lais yn sibrwd.

'Mae o bron yna!'

Gwyddai fod Jaco, Beth a Twm yno wrth droed y wal. Doedd ganddo ddim dewis, ond mynd yn ei flaen. Rhoddodd un ymdrech arall, a chyrhaeddodd ei law ben y wal. Tynnodd ei hun i fyny, ac yno o'i flaen roedd y gawell. Craffodd Caio i mewn

i'r cawell, roedd popeth yn dawel a llonydd, a'r nos wedi gyrru'r adar i gyd i swatio. Llithrodd yn dawel i dywyllwch yr ardd. Camodd yn ofalus tuag at y drws, y cysgodion o'i amgylch yn cau amdano. Gallai weld y clo, roedd hwnnw ar agor yn barod. Craffodd, dim ond tynnu'r bar haearn i agor y drws oedd angen, ac yna gallai ef ddianc a gadael y lleill i mewn. Dyna'r cytundeb.

Cydiodd yn y bar, ei anadl yn gyflym. Gwthiodd ei wallt o'i lygaid a sylwodd fod sŵn ei anadlu'n llenwi'r lle... sŵn anadl trwm, dwfn. Nid ei anadl ef. Rhewodd a throdd yn araf i weld rhywun yn symud yn araf o'r cysgod.

Beth wyt ti'n meddwl sydd am ddigwydd i Caio? Anfon air atom i rannu dy syniad at cliciadur@cynnal.co.uk

SLEIM

Dyma rysait i wneud SLEIM gludiog. Mae’r cynhwysion yma yn hawdd i gael gafael arnynt ac yn ddiogel i’w defnyddio – ond cofia beidio a’i fwyta!

Byddi di angen:

250g o flawd corn (cornflower)

60ml o siampŵ

Lliw bwyd (food colouring)

Dŵr cynnes

Powlen fawr

Llwy fwrdd

Sbatiwla neu lwy bren i’w gymysgu

Sylwa fod y gymysgedd yn hylif gludiog yn dy ddwylo, ond os wyt yn ei dywallt neu ei golli mi fydd yn troi'n galed. Cer amdani – gwasga fo, tafla fo a’i daro ar y bwrdd i’w wneud yn solid, a phan wyt yn stopio bydd yn troi’n hylif eto!

3

OWAIN GLYNDŴR

Sut y byddi di’n dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr ar Fedi 16eg?

Pa ffordd well i ddathlu’r diwrnod na chyfarfod â’r dyn ei hun? Bydd Sioe Ryngweithiol Owain Glyndŵr, sydd wedi ei anelu at blant 6 i 11oed, yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Llandysul ar 16eg Medi. Mae Sioe Owain Glyndŵr, gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’ wedi bod yn teithio o amgylch Cymru ac wedi cael ymateb arddechog gan gynulleidfaoedd. Bu’r Sioe yn Ysgol Pen Barras, Rhuthun yn ddiweddar. Ymosododd Owain Glyndŵr ar dref Rhuthun ar ddiwrnod marchnad ym Mis Medi 1400 ar ôl ffrae gyda’r Iarll Reginald DeGrey. Dyma beth oedd ymateb Llio o Fl.3 ar ôl gweld y Sioe:

Sefydlwyd cwmni drama ‘Mewn Cymeriad’ bum mlynedd yn ôl gan Eleri Twynog Davies, ac yn ogystal â Sioe Owain Glyndŵr mae’r cwmni wedi perfformio dros 20 o sioeau gwahanol ar hyd a lled y wlad. Mae’r sioeau yn sôn am gymeriadau enwog hanes Cymru, fel Hedd Wyn a Mari Jones, ond hefyd am gymeriadau llai adnabyddus fel y mathemategydd Robert Recorde a’r Arglwydd Rhys

Mae Dr Elin Jones yn hanesydd sydd yn arbenigo mewn Hanes Cymru. Mae hi’n croesawu cwmni ‘Mewn Cymeriad’ ac yn teimlo fod galw mawr am y Sioeau hyn. Yn ôl Dr Elin:

“Cewch ddysgu am ein hanes – a chael llond trol o hwyl hefyd.”

Y CELFYDDYDAU -
ARTISTIAID CYMRU

CERFLUNYDD Y CLAI

JOHN MEIRION MORRIS

Cerflunydd yw John Meirion Morris, ac mae ei waith yn cael ei gydnabod fel gwaith o bwys trwy Gymru a thu hwnt.

Cefndir

Ganwyd John Meirion Morris yn Llanuwchllyn, yn 1936, ac aeth i goleg celf yn Lerpwl,

lle astudiodd cerflunwaith. Wedi gadael y coleg bu'n athro celf mewn sawl ysgol a choleg ac am gyfnod bu'n ddarlithydd celf ym Mhrifysgol Kumasi, Ghana yn Affrica.

Portreadau

Mae John Meirion Jones yn enwog am ei bortreadau o bobl enwog Cymru. Wrth weithio gyda chlai, bydd y cerflunydd yn siapio'r wyneb yn gywrain gan roi sylw manwl i gymeriad ac emosiwn y person.

Tryweryn

Gweler lun i’r dde o gerflun adnabyddus John Meirion Morris a gafodd ei greu ganddo i gofio am foddi Cwm Celyn ger y Bala. Ym mhlu yr aderyn, mae rhesi o wynebau, a'u cegau ar agor, fel petaent yn gweiddi neu'n protestio.

Gweithio gyda chlai

Wedi i John Meirion Morris greu ei gerfluniau gyda chlai, bydd y gweithiau fel arfer yn cael eu danfon i ffowndri i gael eu castio mewn metel o'r enw efydd.

'Mae clai yn gyfrwng ffantastig i weithio gydag o,' meddai John Meirion Morris, 'gallwch gychwyn yn syml, trwy sylwi ar siâp yr wyneb, siâp crwn neu siâp mwy sgwâr. Yna mae'r emosiwn a theimlad yn cael ei weithio i'r clai - ofn neu ddychryn, teimlad ysgafn neu deimlad trwm.'

'Mae'n bosib gwthio clai i ffrâm gan ei siapio gyda'r dwylo neu bren.' Ychwanegodd.

Dyma'r ffram lle bydd John Meirion Morris yn gweithio'r clai iddo, a dyma rhai o'r offer a ddefnyddir yng ngweithdy'r cerflunydd.

Mae John Meirion Morris yn credu fod rhoi cyfle i blant a phobl ifanc arbrofi gyda chlai yn bwysig iawn, ac i bawb ddefnyddio ei ddychymyg a bod yn greadigol. Gyda chlai gellir adeiladu siâp, ei fowldio neu dynnu oddi-arno, fel mae'r dychymyg yn dymuno.

4

ANTI DOT YN DWEUD

Mae'n ddechrau tymor newydd eto a phawb yn ôl yn yr ysgol. Efallai y bydd plant yn ymuno â dy ddosbarth o ysgol arall. Efallai y byddan nhw'n teimlo'n 'ofnus ac yn ansicr. Dyma ambell syniad gan Anti Dot ar beth ddylet ti ei wneud i'w helpu.

PWYSO A MESUR

PÔS Y BYRDDAU CINIO

Yn Ysgol y Wern, mae 50 o blant yn cael cinio. Dim ond byrddau i 6 neu 4 sydd yno. Beth yw'r nifer lleiaf o fyrddau fydd eu hangen?


(Diolch i Gareth Ffowc Roberts am y pôs)

5

Oes gen ti ddiddordeb mewn natur a’r amgylchedd?

Wyt ti’n hoffi bod allan yn yr awyr agored?

Beth am fod yn rhan o brosiect Cyfoeth Naturiol Cymru i gasglu mes er mwyn plannu coed derw yn dy ardal di?

Mae CNC yn chwilio am grwpiau o blant ysgolion cynradd, ysgolion Sul, grwpiau Urdd, Sgowtiaid neu unrhyw grŵp dysgu ac addysgu, i gasglu mes yn dy ardal di eleni.

Dyma hanes ‘Miri Mes’ 2017:

Mae dysgwyr o bob rhan o Gymru wedi cymryd rhan yn ymgyrch Campau Mes fwyaf erioed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Casglodd dros ddeg ar hugain o grwpiau dysgu ac addysgu tua 386,400 o fes mewn tair wythnos - ddigon i blannu 257 o gaeau pêl-droed yn llawn o goed derw. Mae’r prosiect Campau Mes, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol, yn helpu CNC blannu mwy o goed sydd wedi cael eu tyfu o hadau lleol. Hefyd mae’r prosiect yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am , a chysylltu gyda’r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Fe gymerodd grwpiau megis y Brownies, Cylch Meithrin, Sgowtiaid ac ysgolion cynradd ran yn y prosiect.

Dywedodd Ffion Hughes, Cydlynydd Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mewn tair i bedair blynedd fyddwn yn medru ailblannu’r coed ifanc ffyniannus yn yr ardal lle cafwyd hyd iddynt fel mes. Mae’r ymateb wedi bod yn rhyfeddol ac rydym yn falch i fedru helpu fwy o bobl fynd allan i ddysgu am ein coetiroedd a choedwigoedd.”

Ar ôl i’r mes gael eu casglu mae CNC yn eu cludo i feithrinfa goed y Comisiwn Coedwigaeth yn Swydd Caer, lle byddant yn tyfu'n goed ifanc. Mae ailblannu’r hadau lleol yn lleihau’r perygl o ymledu plâu a chlefydau sy’n gallu dinistrio’r fforestydd. Mae coed derw yn darparu cartref ar gyfer bywyd gwyllt, ac yn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer. Hefyd maent yn medru lleihau’r perygl o lifogydd a helpu i greu mannau gwych i bobl ymlacio a mwynhau’r awyr agored.

Dyma’r mes wedi dechrau tyfu yn y Feithrinfa Goed yn Swydd Gaer. Mewn 3 neu 4 blynedd byddant yn cael eu hail-blannu yn ôl yn yr ardal lle cawsant eu casglu.

Felly cer amdani yr Hydref yma!

Cer ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru #MiriMes neu ebostia addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am fwy o fanylion.

TI'N SEREN!

LLION YN BEICIO

Mae Llion Iwan Rees-Jenkins, 12 oed, yn feiciwr brwd iawn. Bu Y Cliciadur yn ei holi:

Ysgol? - Penweddig

Camp? – Seiclo hewl, cross a beicio mynydd

Ydych yn aelod o glwb? – Ydw, Clwb Seiclo Ystwyth

Sut Gwnaethoch chi gychwyn seiclo? - Dechreuais seiclo trwy gystadlu yng Gŵyl Seiclo Aberystwyth

Pa offer sy’n rhaid ei gael? - Beic, helmet a dillad seiclo. Fe allwch hefyd gwisgo esgidiau seiclo a menyg.

Faint o ymarfer sydd ei angen? - Os yn cystadlu mae angen o leiaf 3 noson o’r wythnos

Y peth gorau am seiclo? – Dod i 'nabod pobol newydd trwy fod yn rhan o glwb, cadw yn iach ac yn heini a dod i adnabod llefydd newydd.

Beth fyddai’n gwneud seiclo hyd yn oed yn well? – Yn Aberystwyth cael gwell cyfleusterau i ymarfer fel trac seiclo dan do neu awyr agored.

Arwyr? – Geraint Thomas a Chris Froome

Uchelgais? – Fy uchelgais yw cael cynrychioli fy ngwlad yn seiclo ac i gystadlu mewn ras tebyg i Tour de France.

Fyddech chi’n argymell seiclo fel hobi? Pam? - Fydden, maen hwyl chi’n dod i gwrdd â phobl wahanol ac maen dda i'ch cadw'n iach a heini.

6

PEN-BLWYDD HAPUS A HIP-HIP HWRE I’R GWASANAETH IECHYD!

Ym Mis Gorffennaf eleni dathlodd y Gwasanaeth Iechyd ei ben-blwydd yn 70 oed. Fe gafodd y Gwasanaeth Iechyd ei lansio'n ffurfiol ar 5ed Gorffennaf 1948 gan y gweinidog iechyd ar y pryd, y Cymro, Aneurin Bevan.

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i bobl yn y DU gael gofal iechyd heb orfod talu amdano. Yn ystod y dathliadau mae llawer o bobl wedi bod yn siarad am bwysigrwydd y Gwasanaeth Iechyd a pha mor lwcus ydym ni heddiw

ein bod yn gallu cael gofal iechyd heb orfod talu amdano

ANEURIN BEVAN

Cafodd Aneurin Bevan ei eni yn Nhredegar yn 1897, yn fab i löwr. Bu’n rhaid iddo adael yr ysgol yn 13 oed i fynd i weithio yn y pwll glo, ond yn fuan iawn dechreuodd gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Roedd yn teimlo’n gryf y dylai pobl gyffredin, tlawd gael mwy o hawliau a’u trîn yn fwy teg.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1929 a bu’n cynrychioli’r Blaid Lafur yng Nglyn Ebwy am dros 30 mlynedd. Cafodd swydd bwysig yn y llywodraeth ym 1945, sef Gweinidog Iechyd

Sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd

Cyn sefydlu’r gwasanaeth byddai’n rhaid talu am ofal iechyd. Os oedd angen meddyg, nyrs neu fydwraig (nyrs arbennig sy’n helpu mamau wrth eni plant)

roedd yn rhaid i bawb dalu amdanynt. Roedd hyn yn amlwg yn creu problem i bobl dlawd, gyda theuluoedd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn os oedd rhywun yn sâl neu’n cael eu hanafu. Gwelodd Aneurin Bevan ddigon o dlodi ac afiechyd wrth gael ei fagu yn Nhredegar ac ymladdodd yn galed iawn i sefydlu’r gwasanaeth i roi gofal iechyd rhad ac am ddim i bawb.

PENDERFYNIADAU ANODD MEWN AMSER O SALWCH.

OND MAE'N GWNEUD LLES I TI!

Ers talwm doedd pobl ddim yn deall bob amser beth oedd yn achosi iddynt fynd yn sâl. Roedd rhai o'r triniaethau ar gyfer anhwylderau yn od iawn. Dyma rai ohonynt!

7

Nôl ar ei feic!

Wedi ei lwyddiant yn y Tour de France, mae Geraint Thomas wedi bod yn ôl ar ei feic ac yn cystadlu yn ras Tour of Britain, gyda'i gyd-feiciwr o dîm Sky, Chris Froome. Dechreuodd y ras ym mharc gwledig Pen-bre, ger Llanelli, ac aeth y cymal cyntaf â'r beicwyr o Ben-bre i Gasnewydd, pellter o 174.8 km. Ar eu ffordd aeth y beicwyr drwy dref Cydweli

 

(am fwy o hanes Cydweli, dos i Rifyn 3 Y Cliciadur), Caerfyrddin a Llanymddyfri, cyn dringo llethrau heriol y Bannau Brycheiniog a gorffen yn ninas Casnewydd. Roedd yn gyfle gwych i weld ein harwr ar ffyrdd Cymru. Ond hon fydd ras olaf Geriant Thomas am y tymor hwn, gyda'r Cymro'n haeddu hoe wedi tymor llwyddiannus iawn.

CYMAL CYNTAF

PEN-BLWYDD HAPUS I SAIN FFAGAN!

Ym mis Gorffennaf eleni dathlodd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ei phen-blwydd yn 70 oed. Yr amgueddfa yw un o atyniadau hanesyddol mwyaf poblogaidd Cymru ac mae’n denu bron i 500,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Ynghyd â’r dathlu mae’r amgueddfa hefyd yn cychwyn rhaglen gyffrous o ail-ddatblygu, gydag orielau newydd yn agor yn y Prif Adeilad ac yn y Gweithdy. Cofia fod Sain Ffagan yn un o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru a bod mynediad yno yn rhad ac am ddim. Cer draw felly i ymuno yn y dathlu!

DATHLU 70 Y GWASANAETH IECHYD

Dyma gerdd gan Casia Wiliam wedi ei hysgrifennu’n arbennig i ddathlu y Gwasanaeth Iechyd yn 70 oed.

“Roedd hi’n fraint o’r mwyaf cael ysgrifennu cerdd i ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth yn 70,” meddai Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru."

“Roeddwn i am wneud yn siŵr y byddai plant yn deall y gerdd, gan mai mewn wardiau plant y bydd hi’n ymddangos, felly mae hi’n syml, ac yn cyffwrdd ar y pethau sy’n gyffredin i ni gyd wrth ymweld ag ysbytai; y bobl garedig, y llenni lliwgar o gwmpas y gwely, ac wrth gwrs, y gofal.

“Gobeithio bydd y gerdd yn taro nodyn gyda rhieni a phlant sy’n ei darllen mewn wardiau plant yng Nghymru.”

Ti yw’r un sy’n dweud “Mae’n iawn”,
yn tynnu coes i basio’r pnawn.
Ti yw’r un sy’n sychu’r gwaed,
yn gosod baglau wrth fy nhraed.
Ti yw’r llenni lliwgar braf
sy’n lliwio oriau hir yr haf.
Ti yw’r tiwb sy’n cario aer
i mi gael sgwrsio gyda’m chwaer.
Ti yw bîp y peiriant mawr
sydd wrth fy ngwely bach bob awr.
Ti yw’r un sy’n canu cân
pan fydda i wedi blino’n lân.
Ti yw’r un sy’n creu cast gwych
ac aros nes bod dagrau’n sych.
Ti yw’r doctor ddaw â gwên
a llygaid doeth a geiriau clên.
Ti yw’r nyrs sy’n nabod Mam,
yn nabod fi, yn gwybod pam.
Ti yw’r un sy’n gwagio’r pot,
yn gwagio’r bin, yn chwerthin lot.
Ti yw’r dwylo meddal, mud,
sy’n dod â chysur cynnes, clyd.
Ti yw’r curiad cyson, iach
sy’n dawnsio lond fy nghalon fach.
Ti yw’r ffrind sydd fyth ymhell,
yn ffrind am oes pan fydda i’n well

Casia Wiliam

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar y 15fed Tachwedd. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

8