MAE MANW YN
MYND I MINSK!

Manw Lili Robin, 14 oed o Rostryfan,Caernarfon fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision Song Contest, yn Minsk, Belarws.

Manw yn canu yn y rownd derfynol yn Llandudno.

Mae wedi bod yn daith gyffrous i Manw hyd yma, wrth ennill sawl rownd o gystadlu, gan gynnwys canu'n fyw yn y Quadrant yn Abertawe. Yn dilyn hynny cafodd ei dewis i'r rownd derfynol ynghyd â 6 arall, i berfformio yn y Venue yn Llandudno, ar 9fed Hydref. Meddai Manw - ' roedd yn daith heriol ond cyffrous iawn.'

Yn y rownd derfynol yn Llandudno, cafodd 3 eu dewis i ganu'r gân Perta, gan Yws Gwynedd, a Manw wnaeth ennill y bleidlais, oedd yn golygu mai hi felly fyddai'n mynd i Minsk yn Nwyrain Ewrop.

Mae Manw'n ddiolchgar iawn i'w theulu a'i ffrindiau am ei chefnogi ac i'w mentor arbennig Tara Bethan. Mae hi hefyd wrth ei bodd gyda'r

gân Perta. Cân sy'n sôn am Gymru - 'Dwi'n meddwl ei bod yn gân hudolus!' yn ôl Manw, 'mae'n cyfeirio at Gymru fel y wlad bertaf yn y byd, ond mae hefyd yn gân sy'n sôn am ein cyfrioldeb ni i ofalu am ein planed.'

Bydd Manw yn mynd draw i Minsk ar 17eg Tachwedd i ymarfer gyda gweddill y cystadleuwyr, a bydd cyfle i ni weld Manw’n cystadlu'n fyw ar raglen ar S4C am 15:00 dydd Sul, 25ain Tachwedd. Meddai Manw - 'Y peth pwysicaf i mi yw gwneud fy ngorau glas dros fy ngwlad mewn cystadleuaeth sy’n derbyn sylw yn rhyngwladol a rhoi Cymru fach, gwlad y gân, ar y map!'

Gwych iawn Manw a phob lwc i ti yn Minsk!

PAWEN LAWEN
I BAWB!

Ymgyrch ‘Plant Mewn Angen’ Aled Hughes o Radio Cymru eleni ydy casglu 10,000 'Pawen Lawen' gan blant ysgolion Cymru!

Tybed ydy’r Pawen Lawen wedi cyrraedd dy ysgol di? Ond sut a ble y dechreuodd hyn i gyd?

Dywedodd Osian o Ysgol Bro Cernyw yn Sir Conwy ychydig o’r hanes wrth Y Cliciadur:

Roedd ysgol Bro Cernyw yn defnyddio y geiriau Pawen Lawen am ‘high five’ yn barod gan fod y syniad wedi dod gan daid un o blant yr ysgol. Daeth Aled Hughes i’r ysgol i helpu i fynd â’r Bawen Lawen dros Gymru gyfan wedyn, a lansio’r apêl ar Radio Cymru i godi arian i Plant Mewn Angen. Erbyn hyn mae’r Bawen Lawen wedi cyrraedd ysgolion ymhob cwr o Gymru a hyd yn oed wedi teithio dros Fôr yr Iwerydd i Batagonia! Yn ôl Osian:

“Rydw i wrth fy modd, mae o’n gymaint o syrpreis, fedrai’m credu bod o wedi mynd mor bell! Diolch i Aled Hughes mae’r neges wedi cyrraedd pawb yng Nghymru, a diolch i Taid Anni am ddechrau’r dywediad PAWEN LAWEN. Mae o’n grêt ac yn

mynd i godi llawer o arian i Pudsey. Pawen Lawen i bawb!”

I gael mwy o wybodaeth am apêl Pawen Lawen gwrandewch ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru neu ymweld â thudalen Facebook neu Twitter Radio Cymru.

1

DYDDIAU I’R DYDDIADUR

Nodi Canmlwyddiant y
Rhyfel Byd 1af

Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn cynnal amryw o weithgareddau ac arddangosfeydd i nodi’r achlysur pwysig yma, er mwyn cofio am y milwyr a laddwyd ac i ddathlu heddwch. Bydd rhai yn dewis gwisgo’r pabi coch arferol ac eraill yn gwisgo pabi gwyn, i gofio holl ddioddefwyr rhyfel ac i adeiladu diwylliant o heddwch. (Mwy am hyn ar dud.7)

Plant Mewn Angen

Wythnos Gwrth Fwlio

Y thema ar gyfer wythnos gwrth fwlio eleni yw ‘ Parch’ a bydd llawer o ysgolion yn dewis nodi hyn drwy wisgo sanau od ar Dachwedd 12fed. Y syniad y tu ôl i wisgo sanau od yw dangos ei fod yn iawn i fod yn wahanol, ac y dylid parchu pawb beth bynnag yw eu hedrychiad neu eu cred. Y bwriad yw bod plant a phobl ifanc yn dangos esiampl bositif trwy ddewis parchu ei gilydd yn yr ysgol, yn eu cartrefi a’u cymunedau ac ar-lein.

Diwrnod Sant Niclas

Mwy am hyn ar y dudalen gefn

Dydd Marw Llywelyn ein Llyw Olaf

Byrddydd y Gaeaf

Mwy am hyn ar dudalen 6

TLWS
MARY VAUGHAN JONES

Mae Tlws Mary Vaughan Jones yn cael ei roi bob tair blynedd i awdur sydd wedi gwneud gwaith arbennig ym myd llyfrau plant. Eleni enillydd y tlws oedd y diweddar Gareth Ff. Williams, oedd wedi ysgrifennu dros 20 o lyfrau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae hanes Y Gêm, gan Gareth Ff. Williams ar dudalen 7.

Dydd Nadolig

Dydd San Steffan

Ffeithiau Ffantastig am Begwn y Gogledd
- cartref Siôn Corn

  • Does dim tir o dan rew Pegwn y Gogledd.
  • Mae eirth gwyn yn byw ym Mhegwn y Gogledd ond nid ym Mhegwn y De. Does dim pengwiniaid yn byw ym Mhegwn y Gogledd.
  • Y cwpwl cyntaf i briodi ym Mhegwn y Gogledd oedd Borge a Hege Ousland yn 2012. Roedd y tymheredd yn -23°C, Brrrr!
  • Mae 4 miliwn o bobl yn byw y tu fewn i Gylch yr Arctig.
  • Mae pentref Illulissat ar yr Ynys Lâs yn treulio 6 wythnos y flwyddyn mewn tywyllwch, gan nad ydy’r haul yn codi uwchben y gorwel yn ystod Gaeaf yr Arctig

Nadolig Llawen i chi gyd, Nadolig llawen dros y byd..

Dyma'r cyfarchiad Nadolig Llawen mewn ambell iaith arall. Wyt ti'n adnabod rhywun fyddai'n hoffi cael cyfarchiad yn ei iaith ei hun? Cer amdani!

2

Stori Gyfres -

MEWN DROS DY BEN

Pennod 5/6

'Wyt ti am i mi ei agor i ti?'

Roedd yr hen ŵr yn edrych i fyw ei lygaid, rhewodd Caio. Roedd ei law fel petai'n sownd yn y bar haearn a fyddai wedi agor y drws a'i adael yntau i ddianc, ond rhywsut fedrai Caio ddim symud. Fedrai o wneud dim ond aros yno, fel petai llygaid yr hen ŵr wedi rhoi swyn arno - ei rewi yn y fan a'r lle.

'Wyt ti am i mi agor y drws i ti gael mynd allan at dy ffrindiau?' holodd yr hen ŵr wedyn, ei ben ar hanner tro, ei gefn yn gam a'i gôt hir drom yn cau amdano fel clogyn dewin.

O'r ochr arall i'r drws gallai Caio

glywed sŵn sgwrsio isel, roedd Jaco, Twm a Beth yno'n aros felly. Symudodd yr hen ŵr yn nes ato, a sylwodd Caio ar y dwylo'n grydcymalau, a'r gwythiennau'n gwthio trwy'r croen. Cododd yr hen ŵr un llaw, fel petai am gydio yn llaw Caio.

'NA!' Daeth llais Caio fel gwich, a thynnodd ei law yn ôl oddi ar y bar, er bod yr haearn yn oer, roedd fel petai'n llosgi trwy ei groen.

'NA!' galwodd wedyn. Yr ochr arall i'r drws gallai glywed sŵn traed yn sgrialu, ac yn pellhau - roedd y tri wedi dianc felly, a'i adael yno yn garcharor. Rhedodd iâs i lawr ei gefn,

roedd llaw'r hen ŵr wedi cloi am ei law ef. 'Mae dy ffrindiau di wedi dy adael di felly.' Meddai'r hen ŵr, 'a dyma ti ar ben dy hun, efo fi a'r adar.'

'Nid fy ffrindiau i ydyn nhw.' Llwyddodd Caio i sibrwd y geiriau. Roedd yn rhyddhad dweud hynny, ond doedden nhw ddim yn ffrindiau iddo wrth gwrs, neu fyddai Caio ddim yno.

'O?' Rhoddodd yr hen ŵr ei ben ar un ochr eto. 'Bwlis ydyn nhw,' sibrydodd Caio.

'Sgreeeeech!' Neidiodd Caio, roedd y dylluan wedi deffro yn y gawell. Cododd yr hen ŵr ei ben i edrych ar y dylluan, a gwenodd.

Beth wyt ti'n meddwl sydd am ddigwydd i Caio? Anfon air atom i rannu dy syniad at cliciadur@cynnal.co.uk

ORIGAMI

ORIGAMI

ORIGAMI

Nodwr Llyfr siâp carw

Os fydd llyfr yn dy hosan Nadolig (fel ar dud.4) fyddi di angen nodwr llyfr i gadw dy le – beth am fynd ati i wneud y carw ciwt yma? Bydd hwn hefyd yn gwneud anrheg gwych i dy ffrindiau!

Da iawn! Mae’r Carw Ciwt yn barod i’w ddefnyddio i gadw dy le yn dy lyfr!

3

LLYFRAU NEWYDD AR
GYFER DY HOSAN NADOLIG!

Cymru ar y Map
gan Elin Meek a Valeriane Leblond
(Llyfr Ffeithiol)
Beth am ddod ar daith drwy Gymru i weld pa mor hyfryd yw ein gwlad, ac i ddysgu am ei thrysorau cudd?

Trio - Antur y Mileniwm
gan Manon Steffan Ros
(Ffuglen)
Dewch ar antur ryfeddol i Fae Caerdydd gyda thri ffrind mentrus. Y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd.

Ble mae Boc?
gan Huw Aaron
(Llyfr Lluniau)
Cyfrol i blant ac oedolion sy’n hoffi chwilio am Boc y ddraig yn y comic Mellten.

Y Bwbach
Bach Unig

gan Graham Howells
(Ffuglen)
Dilynwn y Bwbach ar ei daith i ganfod ei gartref.

Pawen Lawen!
gan Casia Wiliam
(Barddoniaeth)
Casgliad o farddoniaeth gan Casia Wiliam a rhai o feirdd plant Cymru.

Am fwy o lyfrau newydd ar gyfer y Nadolig edrychwch ar gatalog ‘Gwledd y Nadolig’ Cyngor Llyfrau Cymru:
http://www.cllc.org.uk/ymgyrchoedd-campaigns/catalog

TU ÔL I TI... TU ÔL I TI!

TYMOR Y PANTOMEIM

Mae'r amser yma o'r flwyddyn yn brysur iawn, ac yn arbennig o
brysur ar lwyfannau ar hyd a lled Cymru. Mae'r Nadolig yn
draddodiadol yn gyfnod y panto. Dyma rai ffeithiau am y panto:

Mae'n debyg i draddodiad y panto gychwyn yn yr Eidal dros 500 mlynedd yn ôl. Byddai criw o actorion gyda chymeriadau yn crwydro o farchnad i farchnad yn actio a difyrru. Roedden nhw'n ddramâu bach doniol fel arfer. Un cymeriad oedd i'w weld yn aml oedd Pierrot y clown.

Yn Oes Victoria daeth y pantomeim yn gysylltiedig â'r Nadolig, ac roedd llawer o hud a lledrith yn digwydd

Mae llawer o gomedi yn ogystal â dawns, canu a cherddoriaeth i'w mwynhau mewn panto.

Erbyn heddiw mae'r pantomeim wedi ei selio ar stori boblogaidd megis Aladdin, Sindarela neu Rhian Cwsg. Bydd dâm (dame), bob amser yn cael lle pwysig yn y cyflwyniad, a bydd wedi ei gwisgo mewn gwisgoedd anhygoel. Hefyd bydd 'dyn drwg' yn rhan o'r chwarae, ac mae'r gynulleidfa yn cael cyfle i ymuno yn yr hwyl o drechu'r dihiryn

Wyt ti am fynd i weld pantomeim y Nadolig hwn? Mae digon o ddewis ar hyd a lled Cymru.

Cwmni Mega yn cyflwyno Branwen - pantomeim Cymraeg yn teithio i bob rhan o Gymru, mwy o fanylion i'w gael ar y we.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - Aladdin

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - Dick Whittington

Theatr y Sherman, Caerdydd - Hugan Fach Goch

Theatr y Lyric, Caerfyrddin - Aladdin a Puss in Boots

Canolfan y Celfyddydau Pontardawe - Beauty and the Beast

Theatr Felinfach - Pan–to–a–to–a–to.50

4

ANTI DOT YN DWEUD

Cofia ddweud - Cadwa'n ddiogel!

Dydi bwlio ddim yn iawn.
Dydi bwlio byth yn iawn.
Os wyt ti'n cael dy fwlio neu
yn gwybod am rywun arall
sydd yn cael ei fwlio, yna
mae'n rhaid i ti ddweud.
Gelli di:

PWYSO A MESUR

CWIS

Darllena dud 7 - Naid ar y peiriant amser i ddod o hyd i’r atebion.

1. Beth yw ystyr y gair ‘cadoediad’?

2. Ym mha wlad oedd y ffosydd lle ddigwyddodd y cadoediad ar ddydd Nadolig 1914?

3. Pa fath o bethau wnaeth y milwyr yn ystod y cadoediad?

4. Beth yw’r geiriau Almaeneg am ‘Tawel Nos’?

5. Beth oedd enw cyfansoddwr yr alaw ‘Tawel Nos’

6. Ym mha wlad gafodd y garol ei chyfansoddi?

7. Beth oedd enw’r canwr a recordiodd y gân yn 1945?

8. I sawl iaith mae’r garol wedi cael ei chyfieithu?

PÔS RHIFEDD

Mewn addurn Nadolig mae cylch o sêr. Mae’r ail (2) seren gyferbyn a’r trydydd seren ar ddeg (13). Sawl seren sydd yn y cylch?

Diolch i Gareth Ffowc Roberts am y pôs

JÔCS NADOLIG

Pa salwch wyt ti'n gallu ei gael wrth addurno'r tŷ at y Nadolig?

Tinselitis

Beth wyt ti'n galw dyn eira yn ym mis Awst?

Pwll



Pa garol ydi hoff garol dy rieni?

Dawel nos


5

Mae Byrddydd y Gaeaf eleni, yn hemisffêr y Gogledd yn digwydd ddydd Gwener 21ain o Ragfyr am 22:23.

Enwau eraill:

Heuldro Rhagfyr
Alban Arthan
Heulsafiad y Gaeaf
‘Winter Solstice’ yn Saesneg

Gall Byrddydd y Gaeaf ddigwydd ar unrhyw ddyddiad rhwng Rhagfyr yr 20fed a’r 23ain, ond mae fel arfer ar yr 21ain neu’r 22ain.

Dyma yw diwrnod byrraf a noson hiraf y flwyddyn. Mae’n nodi’r amser lle mae hemisffer gogleddol y ddaear yn gwyro i ffwrdd oddi-wrth yr haul, ac felly yn ddechrau i dymor y gaeaf. Bydd Byrddydd y Gaeaf yn digwydd ar yr union adeg mae

Pegwn y Gogledd yn gwyro pellaf oddi wth yr haul, ar ongl o 23.5° ar echel y ddaear. Yn hemisffer y de, mewn gwledydd fel Awstralia, Seland Newydd a Patagonia, mae’r diwrnod yn dynodi Hirddydd Haf, sef diwrnod hiraf y flwyddyn

Arferion a chredoau : Mae llawer o arferion a chredoau yn cael eu cysylltu gyda’r amser yma o’r flwyddyn, yn aml i wneud gyda goleuni a thywyllwch. Yng ngwledydd y Gogledd a Sgandinafia roedd tannau a choelcerthi yn cael eu cynnau ac roedd Gŵyl o’r enw Iŵl (Yule) yn

cael ei ddathlu. Roedd y Celtiaid yn dathlu Gŵyl o’r enw Alban Arthan (hen enw Cymraeg am ‘Goleuni’r Gaeaf’) ac mae haneswyr yn credu fod llawer o arferion Nadolig fel goleuo canhwyllau a goleuadau yn codi o hen, hen draddodiadau Byrddydd y Gaeaf.

Wyt ti yn mynd â'r ci am dro ambell waith? Wel nid dyna'n union sy'n digwydd yn Nhrawsfynydd...

Mae Lois a Tomos Jones wedi cychwyn menter wahanol iawn ar dir eu fferm yn Nhrawsfynydd, sef Llwybrau Defaid Eryri. Bu Y Cliciadur yn eu holi:

Beth ydi Llwybrau Defaid Eryri?

Rydym yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddod i'r fferm sydd ynghanol prydferthwch Eryri i gael profiad unigryw o dywys un o'n defaid Zwartbles arbennig.
Mae'r daith yn mynd â nhw ar hyd caeau'r fferm a glannau Llyn Trawsfynydd, ac mae pawb wrth eu boddau gyda'r praidd defaid, gan eu bod mor gyfeillgar ac wrth eu bodd yn cael mynd am dro!

Lois yn mynd â ….dafad am dro!

Pam dechrau'r fenter?

Rydym wedi cael cryn lwyddiant gyda'n defaid Zwartbles ers sawl blwyddyn bellach, mae pobl yn rhyfeddu atynt, gan eu bod mor unigryw. Ces i, Lois, y syniad ar ôl gweld rhaglen ar y teledu am bobl

Tomos yn tywys un o’r defaid

yn cerdded gyda lamas, a chan fod ein defaid ni mor hawdd eu hyfforddi, roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad da!

Y peth gorau am y fenter?

Rydan ni wrth ein boddau yn cyfarfod pobl a gweld fod pawb, yn enwedig plant wrth eu boddau gyda'r defaid.

Unrhyw broblemau?

Weithiau mae’r defaid yn cam-bihafio ond mae pobl yn gweld hyn yn eithaf doniol ac yn ei gymryd fel rhan o’r profiad. Unwaith fe wnaeth un o'r defaid bi-pi ar esgid un o'r tywyswyr, ond diolch byth, roedd hi yn gweld y peth yn ddoniol iawn!

Gair o gyngor i bobl eraill fyddai'n hoffi dechrau menter?

Wel - cer amdani, does gen ti ddim i'w golli, ond llawer iawn i'w ennill.

6

RYDYM YN FFOSYDD GWLAD BELG YN Y FLWYDDYN 1914...

Nadolig yn y ffosydd

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dechrau ym Mis Awst 1914, ac er i bawb gredu y byddai popeth wedi dod i ben erbyn y Nadolig y flwyddyn honno, yn anffodus doedd hynny ddim yn wir. Ond ar ddydd Nadolig 1914, mewn ambell le ar hyd y ffosydd fe wnaeth y milwyr roi eu gynnau i lawr am ychydig. Y gair am hynny yw 'cadoediad'.

Mewn un lle yn ffosydd gwlad Belg, aeth milwyr o'r ddwy ochr dros y weiren bigog i 'dir neb' (y tir yn y canol rhwng y ddwy fyddin), yno fe wnaethon nhw gyfnewid anrhegion a chwarae pêl-droed, a mwynhau cwmni ei gilydd. Roedd hefyd yn gyfnod tawel a diogel i nôl cyrff eu cyd-filwyr oedd wedi disgyn, a'u claddu

Stille Nacht
(Tawel Nos)

Erbyn noswyl Nadolig 1914, roedd y glaw di-baid wedi stopio yn ffosydd Belg, ac roedd y tywydd wedi oeri a barrug a rhew ar lawr. Roedd yr Almaenwyr wedi gosod canhwyllau i oleuo'r ffosydd, ac yna daeth llais i dorri ar dawelwch y nos. Un milwr yn canu'r hen garol Stille Nacht (Tawel Nos), ymunodd milwyr o'r ochr arall yn y canu, ac am ychydig llenwyd y caeau rhyfel gyda charolau.

Dyna'r tro olaf i gadoediad ddigwydd yn y ffosydd, nes i'r rhyfel ddod i ben yn 1918.

Y Cadoediad

Mae 100 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r rhyfel dychrynllyd hwn ddod i ben, ym mis Tachwedd 1918. Eleni bu pobl yn edrych yn ôl dros y cyfnod ac yn falch o ddathlu diwedd y rhyfel a chofio am y rhai a laddwyd.

Mae llyfr Gareth Ff. Williams, Y Gêm, yn dweud hanes y gêm bêl-droed enwog yn y ffosydd. Edrychwch ar dudalen 2 am fwy o hanes yr awdur

FFEITHIAU FFANTASTIG AM Y GAROL ‘TAWEL NOS’

Cafodd y garol ei chyfansoddi gan Joseph Mohr (geiriau) a Franz Gruber (alaw) ym mhentref Oberndorf, Awstria ym 1818. Yn ôl y chwedl, ysgrifennodd Y Tad Joseph Mohr, Offeiriad Eglwys Sant Nicolas y geiriau ar noswyl y Nadolig a gofyn i’w ffrind, yr Ysgolfeistr lleol Franz Gruber i gyfansoddi’r alaw. Nid oedd organ yr eglwys yn gweithio gan fod llygod
wedi bod yn cnoi'r fegin ac roedd y Tad Joseph yn awyddus i allu canu carol yn y gwasanaeth ar fore Nadolig. Roedd yr alaw syml yn addas i’w pherfformio ar gitâr, ac yn y gwasanaeth hynny ar fore Nadolig 1818, gant o flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a dau gan mlynedd i’r Nadolig yma, y canodd Joseph Mohr a Franz Gruber y garol a ddaeth yn garol enwocaf y byd.

Fersiwn gwreiddiol o’r garol yn llawysgrifen Franz Gruber

Mewn Almaeneg oedd y geiriau yn wreiddiol, o dan y deitl ‘Stille Nacht’.

Erbyn y 1860au cafodd y geiriau Almaeneg eu cyfieithu i’r Saesneg a daeth y garol yn adnabyddus yn Lloegr a’r UDA. Cafodd y geiriau eu cyfieithu i’r Gymraeg gan y bardd cymraeg T.H Parry Williams ac erbyn hyn mae’n cael ei chanu mewn dros 140 o ieithoedd.

Recordiodd y canwr enwog Bing Crosby fersiwn o’r garol ym 1945 ac mae’r sengl yma hyd heddiw ymysg y 3 sengl sydd wedi cael y gwerthiant uchaf yn y byd.

7

GEMAU RYGBI'R HYDREF

Mae'r tymor rygbi wedi dechrau unwaith eto, a gemau'r hydref wedi dechrau'n llwyddiannus i Gymru, wrth iddynt guro'r Alban o 21 pwynt i 10, gyda dau gais, un yn dod gan George North, a'r llall gan Jonathan Davies. Am y tro cyntaf ers deng mlynedd fe ddaeth buddugoliaeth hefyd yn erbyn Awstralia, ac er na fu cais, mae'r fuddugoliaeth yn arwydd da o'r hyn sydd i ddod. Pob lwc Cymru yn eu gêm nesaf yn erbyn Tonga. Llongyfarchiadau mawr i dîm merched Cymru hefyd - fe wnaethon nhw guro De Affrica o 19 i 5.

Dyma'r ddwy gêm nesaf yn y gyfres -

GORAU CHWARAE,
CYD CHWARAE -

SUT REOLWR YDI RYAN GIGGS?

Mae Ryan Giggs yn rheolwr tîm pêl-droed Cymru ers dechrau'r flwyddyn bellach, ac mae canlyniadau Cymru wedi bod yn gymysg, gyda cholli yn erbyn Sbaen

ac ennill yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon. Mae Y Cliciadur wedi holi ambell ddilynwr pêl droed am eu barn ynglŷn â Giggs fel rheolwr. Beth ydi barn darllenwyr Y Cliciadur?

Rhys (Caerdydd)

'Dwi'n meddwl fod gan Ryan Giggs job galed i lenwi esgidiau Coleman, ond mae'n gwneud gwaith da yn cyflwyno tîm ifanc fel Woodburn a Wilson. Dwi'n meddwl fod mwy o syrpreisus ar y ffordd gan Ryan Giggs.'

Catrin (Y Tymbl)

Mae Ryan yn rheolwr ysbrydoledig, sy'n creu hwyliau da o fewn y tîm. Mae'n dda am roi hyder i'r chwaraewyr ifanc, ond hefyd yn dangos parch at y chwaraewyr profiadol. Mae amser cyffrous o'n blaenau!

Dyma farn tri brawd o Lanuwchllyn, sy'n gefnogwyr brwd -

'Dwi'n cael fy ysbrydoli gan Giggs i wneud i mi weithio'n galetach i gyrraedd safon uchel o bêl-droed.' Gwydion.
'Mae o'n gwybod be' mae o'n wneud, mae o wedi chwarae i un o dimau gorau'r byd a Chymru.'Lewis
'Mae o'n edrych i'r dyfodol achos mae'n rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc.' Cynan

Pob lwc i dîm Cymru yn erbyn Denmarc fory (nos Wener 16ed Tachwedd).

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar y 17fed Ionawr. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

8