BANKSY

YM MHORT TALBOT

Mae cryn gynnwrf wedi codi ym Mhort Talbot ers i furlun graffiti ymddangos ar wal garej yno wythnos cyn y Nadolig, a chael ei gadarnhau mae'r artist Banksy sydd wedi ei greu.

Ar un ochr i’r llun gwelir bachgen bach yn edrych fel ei fod yn sefyll mewn cawod eira, ond wrth edrych rownd y gornel, lludw ac nid eira sydd yn syrthio o’i gwmpas. Mae Port Talbot yn dref ddiwydiannol gyda llawer o ffatrïoedd a gwaith dur enwog yno, ac mae llawer yn credu fod Banksy wedi dewis y lleoliad a chynnwys y llun i dynnu sylw at y llygredd yn y dref.

Dros gyfnod y Nadolig mae hyd at 20,000 o bobl wedi heidio i’r stryd ym Mhort Talbot i weld y murlun ac mae barn y bobl leol ar effaith y gwaith celf yn amrywio!

Yn ôl perchennog y garej, Ian Lewis, mae’r murlun wedi achosi llawer o drafferth a phoen meddwl iddo gan fod cymaint o bobl am ei weld. Mae diogelwch y murlun yn achosi pryder

gan ei fod yn ofni y bydd yn cael ei ddifrodi ac mae’r actor Michael Sheen, sydd yn dod o Bort Talbot, wedi talu am roi ffenest o flaen y murlun i’w ddiogelu.

Yn ôl pobl leol eraill mae’r dref wedi elwa yn fawr o lun Banksy, gyda phobl o dros y byd yn talu sylw ac yn trafod y gwaith celf. Mae busnesau lleol fel siopau a chaffis hefyd wedi elwa o gael mwy o ymwelwyr yn y dref.

Yr actor Michael Sheen o Bort Talbot sydd wedi talu am ddiogelu murlun Banksy dros dro.

I wybod mwy am Banksy clicia yma , roedd pwt amdano yn Yn Y Cliciadur yn Rhifyn 2, tudalen 4.

PRIF WEINIDOG
NEWYDD I GYMRU

Ar 13eg Rhagfyr 2018 daeth Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru ar ôl i Carwyn Jones ymddeol o’r swydd. Cafodd Mr Drakeford ei eni a’i fagu yng Nghaerfyrddin a gweithiodd fel athro cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth.

HWYL FAWR 2018

A CHROESO I'R FLWYDDYN NEWYDD..

Roedd llawer o straeon yn amlwg iawn yn y newyddion yn 2018, pynciau fel Brexit yma yng Nghymru (bydd mwy am Brexit yn y rhifyn nesaf), a straeon am wleidyddion fel Arlywydd America, Donald Trump. Ond pa ddigwyddiadau fydd yn y newyddion yn 2019 tybed?

Bydd yr amgylchfyd yn sicr yn dal yn y newyddion yn 2019, gan fod mwy nac un farn ar sut y dylem ofalu am ein byd.

BETH YDI DY FARN DI?

Mae rhai pobl, Donald Trump, Arlywydd America yn eu plith, yn credu nad ydi'r hinsawdd yn cael ei effeithio oherwydd sut rydym ni'n byw. Maen nhw am adael pethau fel y maent, a pharhau i ddefnyddio olew, nwy a thanwydd tebyg.

Ond mae gwyddonwyr yn rhybuddio fod peidio gwneud dim yn peryglu ein planed. Maen nhw'n dweud fod yr hinsawdd yn newid oherwydd ein defnydd ni o danwydd fel glo, olew a nwy, a bod ein daear yn cynhesu a llawer o drychinebau'n digwydd oherwydd hynny.

1

DYDDIAU I’R DYDDIADUR

Y Mochyn yw’r deuddegfed anifail yn y Sidydd Tsieineaidd (Chinese Zodiac).

Yn ôl y sidydd mae gan bobl sydd wedi cael eu geni ym Mlwyddyn y Mochyn bersonoliaeth hyfryd ac maent wedi cael eu bendithio â chyfoeth a lwc dda.

PRYD MAE O’N DIGWYDD?

Y FLWYDDYN
FACH
GŴYL Y
GWANWYN
GŴYL Y
LLUSERNAU
28AIN IONAWR I’R
4YDD CHWEFROR
5ED I’R 15FED
CHWEFROR
16EG I’R 19EG
CHWEFROR
Mae’r paratoadau yn cychwynar yr 28ain ac yn parhau hyd noswyl y Flwyddyn Newydd. Mae’r Flwyddyn Newydd
Tsieineaidd yn dechrau’n
swyddogol ar y 5ed Chwefror.
Mae’r paratoadau yn cychwyn ar y 16eg a’r ŵyl ei hun ar y 19eg.

Traddodiadau ac Arferion:

Pocedi Coch: Mae’n draddodiad i roi amlen goch o arian i blant i ddod a lwc dda a bendithion am y flwyddyn.

Gwledda: Mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i fwynhau bob math o fwydydd blasus.

Addurniadau: Mae pobl yn addurno eu tai a’r strydoedd gyda dreigiau a chreaduriaid y Sidydd Tsieineaidd, llusernau, negeseuon yn dymuno lwc dda, ac mae’r lliw coch ymhobman gan ei fod yn arwydd o lwc dda. (Edrycha ar dudalen 3 Cer Amdani i gael cyfarwyddiadau sut i wneud addurn Tsieineaidd).

PA ARWYDD O’R SIDYDD TSIEINEAIDD WYT TI? :

Edrych ar y flwyddyn y cefaist dy eni i gael gweld...

Y Fari Lwyd

(O Noswyl y Nadolig hyd at y 6ed Ionawr.) Hen draddodiad Cymreig ar ddechrau Mis Ionawr yw’r Fari Lwyd. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru mae pobl yn mynd o amgylch tai yn cario'r ‘Fari Lwyd’ sef penglog ceffyl wedi ei addurno. Bydd pobl yn canu cân y Fari Lwyd ac yn tynnu coes a chael hwyl.

Hen Galan

Tra mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dathlu’r flwyddyn newydd ar 1af Ionawr, mae’n hen draddodiad Cymreig arall i ddathlu ar 13eg Ionawr (gan ddilyn yr hen galendr Julian). Ar y diwrnod yma bydd plant yn hel Calennig (arian neu fferins) a phobl yn teithio o le i le yn canu ac yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i’w gilydd.

Santes Dwynwen

Diogelwch ar y We

Gweler Anti Dot yn Dweud ar dud.5.

Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

1912

Scott yn cyrraedd yr Antarctig

(mwy am hyn ar dud.7)

1756

Pen-blwydd Mozart

(mwy am hyn ar dud.4)

1971

Prydain yn mynd yn 'ddegol' drwy newid system ariannol

2

Stori Gyfres -

MEWN DROS DY BEN

Pennod 6/6

'Dwi'n siŵr y bydd Caio wrth ei fodd yn dod i'ch helpu i lanhau cawell y dylluan,' roedd llygaid Dad yn syllu'n syth arno, ' gelli di fod efo Mr Roberts ben bore Sadwrn yn gelli Caio?' Fedrai Caio wneud dim ond cytuno, felly nodiodd ei ben yn araf. Doedd o ddim yn siŵr o'r syniad o helpu'r hen ŵr, dim ond awr yn gynharach roedd Mr Roberts wedi ei ddal wrth gawell yr adar, wedi rhoi ei law fawr arw, dros ei law ef. Bu bron i galon Caio stopio! Ond nawr, fedrai Caio ddim credu pa mor addfwyn oedd yr hen ŵr, ei lygaid yn gwenu, yn esbonio'n frwd wrth Dad, sut y bu iddo achub y dylluan druan, a'i bwydo nes iddi gryfhau digon i gael mynd yn ôl i'r gwyllt. Yna trodd at Caio a gwenu.

'Cofia di beth ddywedes i wrthat ti Caio - dydi bwlis byth yn ennill, paid byth â chadw'n dawel am

fwlio. Dweud sydd orau bob amser.' Roedd Caio wedi cytuno wrth gwrs, ond roedd cytuno'n hawdd wrth eistedd yno yn y gegin gynnes efo Dad a Mr Roberts.

Ond y bore wedyn, roedd bol Caio'n llamu wrth iddo gerdded i'r ysgol gyda Dad. Eisteddodd yn grynedig y tu allan i ddrws y Pennaeth. Gallai glywed lleisiau'n trafod, cyn i'r drws agor yn sydyn a chamodd Jaco

allan a'i fam yn ei ddilyn. Roedd Caio'n siŵr fod Jaco wedi mynd yn llai rhywsut, roedd ei lygaid yn goch a gwthiodd ei fam hances iddo sychu ei drwyn.

'Chwytha dy drwyn yn iawn Jaco, a tyrd â sws imi, fydda i yma i dy nôl di ar ôl yr ysgol. Iawn? Welai di pnawn 'ma - bihafia!' meddai ei fam, cyn gadael. Brysiodd Jaco yn ei ôl i'r dosbarth heb godi ei ben. Erbyn diwedd y diwrnod, bron nad

oedd gan Caio biti dros Jaco, roedd wedi bod ei hun trwy'r dydd, a golwg ddigalon iawn arno. Roedd Beth wedi cytuno i fod yn y gôl ym mhob gêm bêl-droed, ac wedi bod mor glên gyda phawb, nes i Mr Wills ofyn iddi a hoffai fynd i'r gornel ddarllen am ychydig, a doedd dim smic i'w glywed gan Twm, roedd hwnnw wedi bod yn helpu i roi trefn ar y stwff celf efo Miss Harris, trwy'r dydd.

Ar ei ffordd adre o'r ysgol, brysiodd Caio dros y stepiau a'r ffens i ganol y coed. Eisteddodd ar y boncyff a gwrando ar y brain yn cecru, yna tynnodd yr hen nodyn a gafodd gan Jaco o'i boced, doedd dim yn y nodyn yn ei ddychryn bellach. Rhwygodd y nodyn yn ddarnau bach, bach a'u gwthio i dwll yn y goeden, rhedodd am adre, gan obeithio fod yna bitsa i swper.

DRAIG

TSIEINIAIDD

Byddi di angen:

  • Cerdyn gwyn ar gyfer y wyneb a’r cynffon
  • Cerdyn neu bapur coch (neu liw o dy ddewis) ar gyfer y corff
  • Ffyn (rhai gardd neu ffyn lolipop)
  • Siswrn
  • Pinnau ffelt, creonau neu baent.
  • Tâp selo neu dâp masgio (masking tape)

Da iawn! Rwyt ti’n barod i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieiniaidd!

Beth am wneud rhai o’r anifeiliaid eraill yn y Sidydd Tsieineaidd gan ddefnyddio'r un dull?

3

DOD I WYBOD AM WAITH LUNED RHYS PARRI
Mae Y Cliciadur yn hoff iawn o'r hiwmor a'r portreadau yng ngwaith yr arlunydd Luned Rhys Parri. Dyma Luned yn ateb ambell gwestiwn am y ffordd mae'n creu.

Portread o ŵr a gwraig yng Nghaernarfon sydd 'chydig yn bryderus am yr wylan uwch eu pennau!

Sut rydach chi'n mynd ati i greu'r gweithiau celf?

Rydw i’n gweithio gyda phapur, clai, gwifren, pren, glud, paent a rhywfaint o ffabrig. Mae elfen o ludwaith neu ‘collage’ yn fy ngwaith sy’n cyd-fynd â modelu tri dimensiwn. Rwyf yn hoff o ail-ddefnyddio hen gardiau post a hen lyfrau a fyddai’n mynd i’r bin ail-gylchu oni bai eu bod yn cael eu cynnwys yn fy ngwaith.

Beth ydych chi'n hoffi fwyaf am weithio fel arlunydd?

Rwy'n hoffi ymgolli yn y broses o greu. Mae’n anodd cwblhau digon o ddarnau ar gyfer arddangosfa, ond pan fyddaf yn gweld fy ngwaith celf ar y wal mewn oriel dwi’n falch iawn ac yn hapus. Teimlaf yn ffodus bod orielau ar draws Ewrop wedi bod yn fodlon arddangos fy ngwaith.

Beth sydd yn eich ysbrydoli i
greu?

Mae hen ffotograffau a chardiau post yn ysbrydoli fy ngwaith. Rwyf hefyd yn hoff iawn o edrych ar adeiladau megis siopau, capeli, tai teras a chaffis. Dwi wrth fy modd yn astudio pobl a’u sgetsio o bryd i’w gilydd mewn llyfr braslunio.

Llun doniol o wraig bron â baglu dros iâr sydd wedi sleifio mewn i'r gegin. Mae hi'n cario llond sosban o lobsgows

Portred o Luned Gonzalez sy'n siarad Cymraeg ond wedi ei geni a'i magu yn y Gaiman , Patagonia, De America. (Mae llun arall o waith Luned Rhys Parri ar dudalen 8)

Geni: 27ain Ionawr, 1756 yn Salzburg, Awstria

Marw: 5ed Rhagfyr, 1791 yn Vienna, Awstria.

Cerddoriaeth:
Ysgrifennodd Mozart lawer iawn, iawn o ddarnau o gerddoriaeth (dros 600!) ond dyma’r rhai mwyaf adnabyddus:

Symffoni Rhif 40 a 41
Operau: Don Giovanni, Priodas Figaro, Y Ffliwt Hud
Darnau Piano Eine kleine Nachtmusik a Concertos Rhif 23 a 27

Rhai ffeithiau diddorol:

  • Roedd yn athrylith pan yn blentyn a dysgodd ei dad, Leopold, iddo ddarllen a chwarae cerddoriaeth pan oedd yn ifanc iawn. Dechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth yn 5 oed ac erbyn iddo fod yn 6 oed roedd o a’i chwaer yn perfformio i bobl bwysig a theuluoedd brenhinol o amgylch Ewrop. Ysgrifennodd Mozart lawer iawn o’i gerddoriaeth pan oedd rhwng 8 ac 19oed!
  • Gallai Mozart wrando ar ddarn o gerddoriaeth un waith ac yna ei chwarae a’i ysgrifennu i lawr yn berffaith, heb ddim camgymeriadau!
  • Er ei fod mor enwog a thalentog, nid oedd yn gwneud llawer o arian o’i gerddoriaeth a bu farw yn ddyn tlawd iawn.
  • Bu farw yn ifanc (35) gan adael darn o gerddoriaeth enwog iawn, y Requiem, heb ei orffen.

Athrylith:
Rhywun sydd yn dangos talent neu allu anhygoel, yn enwedig fel plentyn.

4

ANTI DOT YN DWEUD

CADW’N DDIOGEL AR-LEIN

PWYSO A MESUR

Cyn 15fed Chwefror, 1971 roedd y Deyrnas Unedig (DU) yn defnyddio system arian wahanol, sef:

Ar ôl y dyddiad yma aeth y DU yn ddegol, sef defnyddio'r system llawer haws sydd gennym ni heddiw lle mae 100 ceiniog yn gwneud £1. Dyma bos am 10c i ti gael pendroni drosto:

5

Cyfandir yw'r Antarctig - y lle oeraf, sychaf a mwyaf gwyntog yn y byd, a dyna sydd i gyfrif pam nad oes pobl yn byw yno drwy'r amser, mae'n ddiffeithwch. Ond nid yw'r Antarctig yn hollol ddifywyd, mae nifer o greaduriaid yn gallu goroesi'r tymheredd oer. Un aderyn sydd yn gallu goroesi yw'r Pengwin Ymerodrol, mae'n aderyn anhygoel!

Y Pengwin Ymerodrol

  • Mae'n mesur tua 112cm o daldra ac yn gallu pwyso rhwng. 20-40kg
  • Gall fyw am tua 20 mlynedd.
  • Maen nhw'n byw mewn grwpiau o rhwng 500 a 20,000, mae'r grŵp yn cadw ei gilydd yn fyw trwy rannu eu gwres.
  • Maen nhw'n bwydo yn y môr, ond yn teithio hyd at 100km i mewn i'r tir i fagu eu cywion.
  • Unwaith y bydd yr wŷ wedi ei ddodwy yna bydd y fam yn gadael i chwilio am fwyd. Gwaith y tad yw gofalu am yr wŷ, mae'n ei gadw ar ei draed i wneud yn siŵr nad yw'n rhewi.

  • unwaith mae'r cyw yn deor, gwaith y tad hefyd yw bwydo'r cyw bach nes i'r fam ddychwelyd, dim ond wedyn bydd y tad yn gadael i chwilio am fwyd iddo'i hun.

Sut gefaist ti’r cyfle i ddechrau dringo a
bowldro?

‘Roeddwn yn chwilio am rywbeth arall i’w wneud heblaw pêl-droed. Gan fy mod i’n dringo’r waliau a’r grisiau yn y tŷ penderfynais fynd i ganolfan ddringo Beacon yng Nghaernarfon am wersi dringo. Mi wnes i drio un wers er mwyn gweld os oeddwn yn mwynhau a doedd dim troi nôl, hwn oedd y peth i mi.

Beth oedd dy oed yn dechrau dringo?

Newydd ddathlu fy mhen-blwydd yn 9 oed oeddwn i, ac fe ddysgais yn sydyn sut i ddringo rhaffau a symud i Lefel 2 yn sydyn iawn. Cefais wahoddiad i’r clwb bowldro ar fore Sadwrn hefyd er nad oeddwn yn 10 oed eto.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dringo a bowldro a pha un sydd orau gennyt ti?

Mae’n rhaid cydweithio i ddringo wal, gydag un person yn dringo a ffrind yn helpu i ollwng rhaff i’ch

helpu, yn Saesneg ‘belayer’. Rhaid gwisgo helmed a harnes i ddringo. Dringo ydi bowldro hefyd, ond ar eich pen eich hun heb harnes na helmed ond hefo esgidiau addas a sialc ar gyfer eich dwylo. Mae’r waliau bowldro o dan 20 troedfedd o uchder.
Dwi’n mwynhau’r ddau yn fawr iawn.

Beth sy’n digwydd yn y gwersi?

Rhaid dysgu sut i gynhesu’r corff yn iawn yn gyntaf, wedyn parhau i gynhesu ar y ‘crazy climb’ cyn dringo’r waliau mawr. Rhaid dysgu sut i glymu rhaffau a sut i ollwng y rhaffau i eraill hefyd. Pan dw i’n dringo’r wal dw i’n cael fy hyfforddi i ymestyn y corff a sut i ddarllen y wal, dw i’n gorfod meddwl lle dwi am roi fy nwylo a nghoesau. Rydym yn dysgu sut i weithio fel tîm a gwrando ar ein gilydd.

Pwy ydi dy arwr?

Mae Phil fy athro yn arwr i mi, mae’n fy hyfforddi yn dda ac yn ddringwr da ei hun. Mae’n fy nysgu sut i ddefnyddio fy nghorff i gyrraedd llefydd anodd ac yn fy annog i herio fy hun gan ei fod yn credu ynof f

Ble wyt ti yn gweld dy hun mewn 10 mlynedd?

Mi faswn yn hoffi dringo a hyfforddi pobl eraill i ddringo yn y dyfodol, mae o’n lot fawr o hwyl ac mae hi’n braf ar y wal ddringo!

6

Y Terra Nova

Ar 17eg Ionawr, 1912 cyrhaeddodd 5 o ddynion begwn pellaf yr Antarctig, neu Begwn y De. Yn eu harwain roedd Capten Robert Scott ac ymhlith y 5 dyn roedd Cymro o'r enw Edgar Evans o Rosili, Sir Benfro. Ond stori drychinebus ydi stori'r criw a fentrodd dros y rhewlifoedd....

Cychwyn o Gaerdydd

O Gaerdydd ym mis Mehefin 1910 cychwynnodd ymgyrch i fod y dynion cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Ar long hela morfilod, Y Terra Nova cyrhaeddodd y criw Seland Newydd. Oddi yno ar ddiwedd Tachwedd 1910 cychwynnodd am yr Antarctig, wedi llwytho

nwyddau gan gynnwys digon o fwyd a slediau mecanyddol, ceffylau a chŵn ar gyfer cario offer.

Ras

Roedd Capten Scott yn gwybod fod gŵr o Norwy, o'r enw Amundsen hefyd
yn ceisio cyrraedd y
pegwn, ac er bod ymgyrch Scott i fod i gasglu

gwybodaeth wyddonol a daearegol, ei brif nod oedd cyrraedd y pegwn yn
gyntaf

Taith anodd

Er yr holl gynllunio, nid oedd pethau'n mynd yn dda i griw Scott. Doedd y slediau mecanyddol ddim yn gweithio, a bu'n rhaid rhoi gorau i'w defnyddio

wedi dim ond 80km. Yn lle'r slediau roedd yn rhaid i'r dynion ymuno efo'r anifeiliaid a thynnu'r slediau. Roedd y tywydd hefyd yn rhwystr, gyda stormydd eira a rhewynt yn chwipio.

Dewis y pedwar

Erbyn 3ydd Ionawr, 1912 roedd Scott wedi dewis y 4 dyn fyddai'n mynd ymlaen gydag ef am y milltiroedd olaf - Oates, Wilson, Bowers ag Evans. Roedd Edgar Evans yn gawr o ddyn, yn gryf a phenderfynol.

Yn sefyll o'r chwith i'r dde - Oates, Scott, Edgar Evans Yn eistedd - Bowers a Wilson

Rhy hwyr!

Erbyn i'r criw gyrraedd Pegwn y De ar 17eg Ionawr, 1912, roedden nhw'n gwybod nad nhw oedd wedi ennill y ras. Roedd baner Amundsen wedi ei chodi yno'n barod. Roedd yn siom ofnadwy i Scott a'i griw ac meddai - 'Dyma le dychrynllyd, a ninnau wedi llafurio i gyrraedd yma, a hynny heb y wobr o fod yn gyntaf!'

Gwaeth i ddod

Ond ar y daith yn ôl aeth pethau o chwith. Roedd Edgar Evans wedi disgyn a tharo ei ben, roedd Oates hefyd yn dioddef o effeithiau rhew ar ei draed. Yn ei ddyddiadur, nododd Scott, sut yr oeddynt yn dioddef o angen bwyd, ac yn wan a llesg. Bu farw Edgar Evans ar 17eg Chwefror, a bu farw Oates yn fuan wedyn.

Diwedd y daith

Dyma addasiad o ddyddiadur olaf Scott. Ni ddaeth yr un o'r pum anturiaethwr adref yn ôl.

7

BLE GAWN NI FYND HEDDIW...?

Y TRO HWN MAE Y CLICIADUR WEDI BOD YN YR AMGUEDDFA GENEDLAETHOL YNG NGHAERDYDD.

Beth sydd i'w weld yno?

Mae'r Amgueddfa yn llawn i'r ymylon o bob math o bethau diddorol, o baentiadau enwog i forfilod enfawr, ond aeth Y Cliciadur yno i weld arddangosfa arbennig y gofodwr Tim Peake.

Y Capsiwl yn cyrraedd y Ddaear yn Casachstan ar 18fed Mehefin 2016.

Cei gyfle unigryw i weld y Capsiwl Soyuz TMA-19M, sef y capsiwl a gludodd Tim Peake a'i ddau gyd-ofodwr yn ôl i'r Ddaear ar ôl eu hantur ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol. Gei di gerdded yn ddigon agos at y capsiwl i weld olion y gwres anhygoel y bu'n rhaid i'r capsiwl deithio trwyddo wrth ddychwelyd i atmosffêr y Ddaear. Hefyd gei di weld y bwrdd rheoli y tu mewn i'r capsiwl. Anhygoel!

Pryd mae'n bosibl ymweld?

Mae'r arddangosfa arbennig hon yn yr Amgueddfa hyd at

10fed Chwefror, 2019, ac mae'r Amgueddfa ar agor (ac eithrio 24ain-26ain Rhagfyr ac 1af Ionawr) o ddydd Mawrth - Sul, o 10.00yb - 5.00yp.

Cost

Mae mynediad i'r Amgueddfa ac i'r arddangosfa Tim Peake am ddim

Mwy o wybodaeth:

Am fwy o wybodaeth ac i weld ffilm fer yn dangos sut y cyrhaeddodd y capsiwl yr arddangosfa cer i: https://amgueddfa.cymru/caerdydd/digwyddiadau/10260/Llong-Ofod-Tim-Peake-/

Y Capsiwl yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

PENCAMPWRIAETH RYGBI’R CHWE GWLAD

PENCAMPWRIAETH RYGBI’R CHWE GWLAD

PENCAMPWRIAETH RYGBI’R CHWE GWLAD

A hithau’n dymor rygbi unwaith eto edrychwn ymlaen at weld Cymru’n chwarae am y tro olaf dan arweiniad Warren Gatland, gan obeithio y bydd yn dymor llwyddiannus. Bydd Wayne Pivac, rheolwr y Scarlets, yn cymryd yr awenau gan Gatland ar ôl cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2019.

Dyma ddarn o waith Luned Rhys Parri, fydd yn cael ei arddangos yn fuan yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, ger Pwllheli. Mae'r teulu yn y llun yn gwisgo eu dillad gorau i fynd i'r capel. Mwy am waith Luned ar dudalen 6.

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar y 14eg Mawrth. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

8