BE YDI BREXIT?

Mis Mehefin 2016 cafwyd refferendwm* i benderfynu a ddylai Gwledydd Prydain aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd (UE)*. Pleidleisiodd 30 miliwn o bobl yn y refferendwm, dyma'r canlyniad -

Beth ydi'r UE?

  • Cafodd yr UE ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda'r syniad y byddai gwledydd yn cyd-weithio ac osgoi anghydweld fyddai'n gallu arwain at ryfeloedd.
  • Mae gan yr UE ei senedd ei hun sy'n creu cyfreithiau arbennig
      sydd yn gyson rhwng y 28 gwlad.
  • Mae senedd yr UE yn ninas Brwsel, yng ngwlad Belg.
  • Mae gennym ni i gyd Aelod Seneddol i siarad drosom yn senedd Ewrop, mae gan Gymru 4 aelod seneddol Ewropeaidd.

Mae Mr Jones dros aros yn yr UE, dyma ei farn:

  • Dw i'n credu yn y dywediad - 'Mewn Undeb Mae Nerth'. Mae gwerthu pethau i wledydd eraill yn haws trwy'r UE, ac felly yn dda ar gyfer busnes a masnach, mae'n sicrhau fod prisiau pethau'n aros yn weddol rad.
  • Yn fy marn i mae'r UE yn sicrhau heddwch a chyd-weithio, mae'n bwysig dod i ddeall ein gilydd.
  • Wrth gwrs ein bod angen i bobl ddod yma o wledydd yr UE i weithio e.e. ysbytai, gwestai a ffatrïoedd. A hefyd, o fewn yr UE, mae gennym ni hawl i fynd i wledydd eraill i weithio.

Mae Mr Williams am adael yr UE, dyma ei farn:

  • Yn fy marn i, mae gwledydd yr UE yn gorfod dilyn llawer gormod o reolau, mae'n well i ni wneud ein rheolau ein hunain.
  • Y Mae'n wirion ein bod yn gorfod talu gymaint o arian i'r UE, a dydw i ddim yn gweld ein bod yn cael digon yn ôl am yr arian hwnnw.
  • Dydw i ddim yn credu y dylai pobl fedru symud yma mor hawdd. Mae'r wlad yma yn wlad gyfoethog, gyda safon byw gweddol uchel, dydw i ddim eisiau pobl o wledydd mwy tlawd fedru dod yma yn rhwydd.

Ffaith

Roedd gan tua 66 miliwn o bobl gwledydd Prydain hawl i bleidleisio yn y refferendwm.

Be' ydi be' a Brexit!

Brexit - gair wedi ei greu sy'n cyfuno'r geiriau Britain ac Exit, ac mae'n golygu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

*Undeb Ewropeaidd (UE) - casgliad o 28 o wledydd sydd wedi dod at ei gilydd i wneud penderfyniadau. Mae pob gwlad yn talu i fod yn aelod, fel mewn clwb, ac mae hynny'n rhoi'r hawl iddynt i gyd-weithio mewn ffyrdd arbennig.

Y Farchnad Sengl - Mae'r gwledydd yn cael prynu a gwerthu drwy'i gilydd, ac mae pobl y 28 gwlad yn cael symud o un wlad i'r llall yn rhydd. Yn union fel petai ni i gyd yn byw mewn un wlad fawr.

*Refferendwm - pleidlais i bobl ar un pwynt arbennig. Cafwyd refferendwm yng Nghymru yn 1997, a chafodd Cymru ei senedd ei hun.

1

DYDDIAU I’R DYDDIADUR

Mis apêl ‘Marie Curie Cancer’

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg
(Science and Engineering Week)

Yn 1879 cafodd Albert Einstein ei eni.

Roedd Einstein yn fathemategydd a ffisegwr, ac mae’n cael ei adnabod fel un o’r gwyddonwyr pwysicaf mewn hanes.

Diwrnod Cwsg y Byd
(World Sleep Day)

mwy am hyn ar dudalen 6

Holi

Gŵyl Hindŵaidd i ddathlu’r Gwanwyn yw Holi. Caiff ei ddathlu yn India yn bennaf ond erbyn hyn mae dathliadau yn cael eu cynnal dros y byd. Mae’n ŵyl llawn lliw a hwyl, lle mae pobl yn taflu dŵr a phowdr o liwiau llachar ar ei gilydd.

Diwrnod Barddoniaeth

Dyma gerdd gan Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, i ddathlu Diwrnod Barddoniaeth.

Sul y Mamau

(4ydd Sul yn y Grawys)
Mae stori i ddathlu Sul y Mamau ar dudalen 3

Diwrnod Ffŵl Ebrill

Chwaraeodd y BBC dric Ffŵl Ebrill yn 2008 drwy ddangos clip fidio o ‘bengwiniaid yn hedfan’ gan ddweud fod pengwiniaid yr Antartig wedi cael digon o’r tywydd oer ac yn hedfan i’r fforestydd glaw yn Ne America! (Dydy pengwiniaid ddim yn gallu hedfan wrth gwrs!)

Sul y Blodau / Sul y Palmwydd

Dydd Gwener y Groglith

Sul y Pasg

Y Grawys (‘Lent’ yn Saesneg)

Dydd Mercher y Lludw, 6ed Mawrth - Dydd Sul y Pasg, 21ain Ebrill

Mae cyfnod y Grawys yn cael ei dathlu'n flynyddol gan Gristnogion. Yn draddodiadol bydd Cristnogion yn rhoi’r gorau i fwyd neu arferiad dros y Grawys, i gofio am y cyfnod o 40 diwrnod y treuliodd Iesu Grist yn yr anialwch. Gall hyn olygu peidio â bwyta siocled neu gacennau, neu i beidio ag yfed alcohol. Bydd cyfnod y Grawys yn cychwyn ar Ddydd Mercher y Lludw ac yn parhau hyd y Pasg. Yn draddodiadol roedd pobl yn bwyta crempog ar Ddydd Mawrth Ynyd (y diwrnod cyn Dydd Mercher y Lludw) er mwyn defnyddio wyau a menyn am y tro olaf cyn gorfod gwneud hebddynt dros gyfnod y Grawys.

2

Diolch Mam!

Roedd Bethan eisiau anifail anwes. Roedd gan bawb yn ei dosbarth hi anifail, roedd gan Llio labrador brown bendigedig, o'r enw Benji ac roedd Benji yn gwneud pob mathau o gampau. Un bore gofynodd Bethan 'Ga' i gi ar fy mhen-blwydd?' ond roedd yn gwybod beth fyddai'r ateb cyn gofyn.
'Ci wir!'

Ysgwyd ei phen fyddai Mam o hyd. Mae cŵn yn drafferth, mae'n rhaid i gŵn cael mynd am dro. Maen nhw hefyd yn ddrud i'w cadw ac maen rhaid prynu bwyd arbennig iddyn nhw a thalu

biliau milfeddyg.

Doedd gan Mam ddim arian sbâr. Ond pan roedd Mam yn gweld yr olwg siomedig ar wyneb Bethan, roedd hithau'n teimlo'n drist hefyd.

Y prynhawn hwnnw roedd Bethan wedi anghofio geiriau Mam y bore hwnnw, 'Nain fydd yn dy nôl di o'r ysgol p'nawn 'ma.'

Rhedodd Bethan allan trwy giât yr ysgol, roedd Nain yno'n aros. ‘Ble mae Mam?' holodd Bethan. 'Adre dw i'n meddwl,' meddai Nain a gwên lydan ar ei hwyneb.

'Ond pam nad ydi hi yma'n fy nôl i felly?' Ond doedd Nain ddim am ddweud.

Brysiodd y ddwy i fyny'r ffordd i dŷ Bethan a Mam. Agorodd y drws yn sydyn ac roedd Mam yno, yn ei welis.

'Ty'd rownd i'r ardd,' meddai, ac yno yn yr ardd roedd cwt bach gyda ffens o'i amgylch.

'Be?' Edrychodd Bethan yn syn, ac yna neidiodd pan ddaeth sŵn rhyfedd o du mewn y cwt, a gwthiodd pig bach allan o'r tywyllwch.

'Iâr!' Chwarddodd Bethan.

Daeth iâr fach wen allan, ac un arall yn ei dilyn. Dwy iâr fach wen, a daeth y ddwy at y ffens i ddweud helô.

'Mi fedrwn ni werthu eu hwyau ti'n gweld,' meddai Mam, 'ac wedyn efallai y medri di gynilo digon i gael ci rhyw ddiwrnod.' Ond erbyn i ben-blwydd Bethan gyrraedd, roedd hi wedi anghofio popeth am gael ci. Roedd ei dwy iâr fach wen yn gallu gwneud campau cystal â Benji. Ond yn well byth roedden nhw'n rhoi dau wŷ yn anrheg iddi bob dydd. Diolch Mam!

Byddi di angen:

  • Bar siocled o unrhyw faint neu flas.
  • Cerdyn neu ‘funky foam’ ar gyfer yr wyneb.
  • Gwlân neu ‘funky foam’ ar gyfer y gwallt.
  • Darn o ffelt neu ‘funky foam’ ar gyfer y clogyn.
  • Darnau bach i addurno.
  • Pren mesur.
  • Glud PVA
  • Pinnau ffelt

Anrheg Sul y Mamau

ARCH-ARWR SIOCLED

Beth am wneud ARCH-ARWR SIOCLED i ddangos i Mam, Nain, Mam-gu neu rhywun sydd yn gofalu amdanat dy fod yn eu caru?

3

MERCHED MAWREDDOG

MERCHED MAWREDDOG

MERCHED MAWREDDOG

Fase ti’n credu nad oes yr un cerflun awyr-agored o ddynes (neu fenyw) enwog neu bwysig yng Nghymru gyfan?

Mae llawer o gerfluniau o ddynion ar strydoedd a pharciau dros Gymru gyfan, fel yr un o Aneurin Bevan yng Nghaerdydd a David Lloyd George yng Nghaernarfon, ond nid oes

yr un merch yn cael ei chofio na’i nodi fel hyn. OND, bydd hyn yn newid yn fuan gyda cherflun newydd sbon fydd yn cael ei godi y tu allan i adeilad BBC Cymru yng

Nghaerdydd. Cafwyd pleidlais gyhoeddus i benderfynu pa Gymraes oedd yn haeddu cael y fraint yma. Dyma’r merched oedd ar y rhestr fer:

Rhestr Fer

Elizabeth Andrews

1882 - 1960

Betty Campbell

1934 - 2017

Cranogwen (Sarah Jane Rees)

Bardd a newyddiadurwraig

1839 - 1916

Elaine Morgan

Awdur dramâu

1920 - 2013

Lady Rhondda / Arglwyddes Rhondda (Margaret Haig Thomas)

1883 - 1958

A’r enillydd oedd....

BETTY CAMPBELL

"Yn ein ffordd unigryw ein hunain rydym yn sefydlu ardal lle nad yw crefydd, na lliw o bwys - roeddem i gyd yn parchu ein gilydd fel pobl.”

Cafodd Betty Cambell ei geni yn Nhre-Biwt yng Nghaerdydd a chafodd ei magu yn ardal dlawd Tiger Bay. Roedd Betty yn ferch ddisglair yn yr ysgol ac roedd wrth ei bodd yn darllen, ond oherwydd ei bod yn ferch ddu roedd llawer o bobl yn credu nad oedd yn gallu cael yr un cyfleoedd â merched gwyn. Daeth Betty dros lawer o anhawsterau ac anhegwch a chafodd swydd fel prifathrawes ddu cyntaf Cymru. Treuliodd Betty weddill ei bywyd yn ymladd dros gael hawliau cyfartal i bawb.

Os hoffet ti ddarllen mwy am Betty Campbell neu unrhyw un o’r Merched Mawreddog dilyna’r linc yma.

Swydd neu waith:

Dyn Camera.

Enw:

Rhys Edwards

Lle rwyt ti'n gweithio?

Dw i’n gweithio dros Gymru gyfan, yn teithio dros Brydain ac yn mynd dramor weithiau. Dw i’n ddigon lwcus i fod wedi gweithio yn Awstralia, De Corea ac yn Jwngl yr Amason!

Rho ddisgrifiad o ddiwrnod arferol.

Mae pob diwrnod yn wahanol, gan ddibynnu beth ydw i yn ei ffilmio ar y pryd. Weithiau rydw i’n sefyll mewn cae am oriau,

dro arall dw i ar ben mynydd neu mewn tŷ, stiwdio, bwyty, llong neu unrhyw le lle mae angen i mi ffilmio. Yn aml iawn mae 'na lawer o waith teithio i leoliadau gwahanol ac aros o gwmpas nes mae pethau yn barod. Rwyf yn aml yn cael cyfarfod â phobl ddiddorol ac weithiau yn gweithio efo pobl enwog

Pethau da am y swydd.

Gan fod pob diwrnod yn wahanol dydw i byth yn diflasu! Rwyf wrth fy modd yn cael teithio i lefydd diddorol a chael cyfarfod â phobl ddiddorol. Mae hefyd yn braf iawn gweld fy ngwaith yn cael ei ddangos

ar y teledu neu mewn ffilmiau.

Pethau nad ydynt mor dda am dy swydd.

Mae teithio ac aros o gwmpas yn gallu bod yn anodd weithiau. Mae’r oriau hefyd yn gallu bod yn hir iawn ac rwyf yn gorfod treulio llawer o amser i ffwrdd o ‘nghartref a ‘nheulu.

Cymwysterau.

Rydw i wedi astudio ‘Ffilm a Theledu’ yn y Coleg, sydd yn help ond ddim yn hanfodol. Weithiau mae cwmnïoedd teledu yn cynnig hyfforddiant neu brentisiaeth i ddynion neu ferched gael dysgu sgiliau camera.

Swydd neu waith:

Dyn Camera.

Enw:

Rhys Edwards

Lle rwyt ti'n gweithio?

Dw i’n gweithio dros Gymru gyfan, yn teithio dros Brydain ac yn mynd dramor weithiau. Dw i’n ddigon lwcus i fod wedi gweithio yn Awstralia, De Corea ac yn Jwngl yr Amason!

Rho ddisgrifiad o ddiwrnod arferol.

Mae pob diwrnod yn wahanol, gan ddibynnu beth ydw i yn ei ffilmio ar y pryd. Weithiau rydw i’n sefyll mewn cae am oriau,

dro arall dw i ar ben mynydd neu mewn tŷ, stiwdio, bwyty, llong neu unrhyw le lle mae angen i mi ffilmio. Yn aml iawn mae 'na lawer o waith teithio i leoliadau gwahanol ac aros o gwmpas nes mae pethau yn barod. Rwyf yn aml yn cael cyfarfod â phobl ddiddorol ac weithiau yn gweithio efo pobl enwog

Pethau da am y swydd.

Gan fod pob diwrnod yn wahanol dydw i byth yn diflasu! Rwyf wrth fy modd yn cael teithio i lefydd diddorol a chael cyfarfod â phobl ddiddorol. Mae hefyd yn braf iawn gweld fy ngwaith yn cael ei ddangos

ar y teledu neu mewn ffilmiau.

Pethau nad ydynt mor dda am dy swydd.

Mae teithio ac aros o gwmpas yn gallu bod yn anodd weithiau. Mae’r oriau hefyd yn gallu bod yn hir iawn ac rwyf yn gorfod treulio llawer o amser i ffwrdd o ‘nghartref a ‘nheulu.

Cymwysterau.

Rydw i wedi astudio ‘Ffilm a Theledu’ yn y Coleg, sydd yn help ond ddim yn hanfodol. Weithiau mae cwmnïoedd teledu yn cynnig hyfforddiant neu brentisiaeth i ddynion neu ferched gael dysgu sgiliau camera

Swydd neu waith:

Dyn Camera.

Enw:

Rhys Edwards

Lle rwyt ti'n gweithio?

Dw i’n gweithio dros Gymru gyfan, yn teithio dros Brydain ac yn mynd dramor weithiau. Dw i’n ddigon lwcus i fod wedi gweithio yn Awstralia, De Corea ac yn Jwngl yr Amason!

Rho ddisgrifiad o ddiwrnod arferol.

Mae pob diwrnod yn wahanol, gan ddibynnu beth ydw i yn ei ffilmio ar y pryd. Weithiau rydw i’n sefyll mewn cae am oriau,

dro arall dw i ar ben mynydd neu mewn tŷ, stiwdio, bwyty, llong neu unrhyw le lle mae angen i mi ffilmio. Yn aml iawn mae 'na lawer o waith teithio i leoliadau gwahanol ac aros o gwmpas nes mae pethau yn barod. Rwyf yn aml yn cael cyfarfod â phobl ddiddorol ac weithiau yn gweithio efo pobl enwog

Pethau da am y swydd.

Gan fod pob diwrnod yn wahanol dydw i byth yn diflasu! Rwyf wrth fy modd yn cael teithio i lefydd diddorol a chael cyfarfod â phobl ddiddorol. Mae hefyd yn braf iawn gweld fy ngwaith yn cael ei ddangos

ar y teledu neu mewn ffilmiau.

Pethau nad ydynt mor dda am dy swydd.

Mae teithio ac aros o gwmpas yn gallu bod yn anodd weithiau. Mae’r oriau hefyd yn gallu bod yn hir iawn ac rwyf yn gorfod treulio llawer o amser i ffwrdd o ‘nghartref a ‘nheulu.

Cymwysterau.

Rydw i wedi astudio ‘Ffilm a Theledu’ yn y Coleg, sydd yn help ond ddim yn hanfodol. Weithiau mae cwmnïoedd teledu yn cynnig hyfforddiant neu brentisiaeth i ddynion neu ferched gael dysgu sgiliau camera

4

Ar hyd a lled Cymru mae nifer o gerfluniau neu gofgolofnau wedi eu codi i gofio am bobl arbennig. Ond mae nifer o'r cerfluniau hyn bellach yn hen iawn, ac yn cofio am bobl na fydden ni'n cytuno gyda'r hyn y gwnaethon nhw heddiw. Un enghraifft yw'r

gofgolofn i Syr Thomas Picton (1758 - 1815) sydd i'w gweld yn nhref Caerfyrddin. Milwr oedd Picton, ac roedd yn filwr llwyddiannus, ond roedd ochr arall i'r dyn hefyd. Yn ôl y sôn roedd yn ddyn hynod o greulon, gan gam-drin ac arteithio pobl.

ANTI DOT YN DWEUD

Mae Sul y Mamau yn gyfle i ni ddiolch i Mam am yr holl bethau mae hi yn ei wneud i ti. Dyma rai pethau y medri di eu gwneud i ddweud 'Diolch Mam!"

PWYSO A MESUR

PÔS CERFLUNIAU

Dyma lun rhai cerfluniau o amgylch Cymru. Tybed elli di ddweud cerflun o bwy
ydynt ac ym mha dref mae pob un? Mae ateb dau ohonynt ar dudalen 4!

FAINT
FYDD OED MAM Y TRO NESAF?

Heddiw mae Mam yn 30 mlynedd, 30 mis, 30 wythnos a 30 diwrnod. Pa ben-blwydd fydd y nesaf i Mam?

Ateb ar y dudalen ôl!

Diolch i Gareth Ffowc Roberts am y pôs

5

Mae’n ddiwrnod Cwsg y Byd ar y 15fed Mawrth eleni ond pam fod angen diwrnod fel hyn a pham ydyn ni angen cwsg?

Breuddwydio....
Mae pawb yn breuddwydio ond dwyt ti ddim bob amser yn cofio dy freuddwyd. Rhwng 4:00 a 7:00 a.m rwyt ti’n gwneud y rhan fwyaf o freuddwydio. Hunllef ydy’r gair am freuddwyd cas!

Tips ar gyfer noson dda o gwsg:
  • Gwna yn siŵr dy fod yn cael digon o ymarfer corff yn ystod y dydd.
  • Gwna yn siŵr nad wyt ti wedi bwyta pryd mawr o fwyd cyn cysgu.
  • Mae diod o laeth cynnes cyn mynd i'r gwely'n help.
  • Paid edrych ar sgrîn cyn cysgu, mae golau glas o sgrin deledu neu ffôn yn ein stopio rhag teimlo’n gysglyd.
  • Paid ag yfed diod sy’n cynnwys caffîn
  • Cer i dy wely tua’r un pryd bob nos.

Mae cwsg yn hanfodol i dyfu a datblygu ein corff ac ymennydd; mae’n rhaid i bopeth byw gysgu, o’r pry’ bach lleiaf i’r morfil mwyaf! Dyma rai rhesymau pam fod angen cwsg arnat:

Mae dy gorff angen cwsg oherwydd:
  • Dyna pryd mae dy esgyrn, dy gyhyrau a dy groen yn tyfu.
  • Dyna pryd mae dy gyhyrau, dy groen a rhannau eraill o dy gorff yn trwsio unrhyw anafiadau.
  • Dyna pryd mae’n ymladd salwch er mwyn cadw’n iach
Mae dy ymennydd angen cwsg oherwydd:
  • Dyna pryd mae’n cofio beth wyt ti wedi ei ddysgu yn ystod y dydd
  • Mae’n dy helpu i ganolbwyntio a thalu sylw
  • Dyna pryd mae’n datrys problemau a meddwl am syniadau newydd.
Wyt ti’n un sydd yn hoffi aros i fyny yn hwyr? Wyt ti’n chwarae efo dy ffôn neu dabled yn hwyr yn y nos pan wyt ti i fod yn cysgu?

Dyma sut mae diffyg cwsg yn gallu dy effeithio di:

  • Gelli di anghofio beth wyt ti wedi ei ddysgu.
  • Gelli di gael trafferth gwneud penderfyniadau da.
  • Gelli di fod yn flin (neu yn grac) ac mewn hwyliau drwg.
  • Gelli di gael trafferth wrth chwarae gemau a chwaraeon.
  • Gelli di fod yn llai amyneddgar gyda dy ffrindiau neu dy frodyr a chwiorydd.
  • Gelli di gael trafferth gwrando ar rieni neu athrawon.

Enw/ Oedran : Siwan Mari Williams, 12 mlwydd oed.

Camp : Chwarae pêl-droed i Ferched dan 12 oed Gogledd Cymru, Academi pêl-droed Merched dan 14 oed Wrecsam, Tîm Sir Ddinbych dan 13 oed a thîm NFA girls.

Beth yw dy hanes? Ers i mi fod yn gallu cerdded mae gen i ddiddordeb mewn pêl-droed. Roeddwn yn hoffi cicio pêl a chwarae pêl-droed hefo Dad ac wedyn pan ddechreuais yn Ysgol Pen Barras roeddwn yn chwarae ar y buarth bob amser cinio a chwarae gan chwarae rhan amlaf gyda’r bechgyn. Fe wnes i ymuno a thîm pêl-droed Ruthin Rovers dan 7 oed

ac fe wnes i chwarae gyda nhw nes fy mod yn 10 oed. Roedd 2 ferch yn chwarae i Ruthin Rovers. Anaml iawn roeddwn i’n dod ar draws merched eraill wrth chwarae yn erbyn timau eraill yn y gynghrair. Nid oeddwn yn cael symud ymlaen i Ruthin Town gyda'r bechgyn oherwydd fy mod yn ferch ac nid oes tîm merched yn Rhuthun. Felly mi es i am dreialon i dîm newydd a oedd yn cael ei sefydlu i ferched yn Wrecsam ac roeddwn yn llwyddiannus. Byth ers hynny rwyf yn chwarae i academi Gogledd Ddwyrain Cymru yn Wrecsam. Diwedd haf diwethaf mi fues i am dreialon ar gyfer tîm merched Gogledd Cymru ac

roeddwn yn llwyddiannus. Yr uchafbwynt i mi oedd chwarae i dîm Gogledd Cymru yn erbyn tîm merched Manchester City yn stadiwm Etihad a chael gwisgo cit pêl-droed Cymru rhif 11!

Pwy wnaeth dy ysbrydoli? Fy arwyr yw Natasha Harding, Steph Houghton, Gareth Bale a Ronaldo. Mae fy holl hyfforddwyr yn arwyr i mi ac yn fy annog i wneud fy ngorau. Wrth chwarae gyda thimau bechgyn roeddwn yn cael fy ysbrydoli i ddangos i eraill fod merched yn gallu chwarae pêl-droed. Erbyn hyn mae pêl-droed merched yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac mae llawer mwy o gyfleoedd i ferched chwarae pêl-droed. Er mawr siom nid ydy merched yn cael chwarae pêl-droed fel rhan o wersi Addysg Gorfforol yr ysgol, dim ond y bechgyn!

Ble wyt ti’n gweld dy hun mewn 10 mlynedd? Fy mreuddwyd yw chwarae i sgwad merched Cymru a gobeithio cael y cyfle i fynd i’r UDA. Mi fuaswn hefyd yn hoffi hyfforddi merched eraill i chwarae pêl-droed yn y dyfodol.

6

Wyddech chi?

Ers talwm nid oedd merched yn cael astudio mewn prifysgolion ac nid oedd cymaint o gyfleoedd iddyn nhw fynd yn wyddonwyr neu feddygon. Dyma hanes un ferch wnaeth frwydro yn erbyn y drefn a dilyn ei uchelgais.

Ydych chi wedi torri asgwrn erioed? A gawsoch chi belydr-x i weld beth oedd y broblem? Darllenwch am Marie Curie a'i gwaith gwych.

MARIE CURIE (1867-1934)

MARIE CURIE (1867-1934)

MARIE CURIE (1867-1934)

Gwyddonydd oedd Marie Curie. Gwnaeth hi a'i gŵr Pierre waith pwysig iawn ym myd ymbelydredd.

Beth wnaeth hi ddarganfod?

Marie Curie wnaeth ddarganfod dwy elfen gemegol, sef radiwm a pholoniwm.

Beth oedd yn bwysig am ei darganfyddiadau?

Roedd ei darganfyddiadau yn cael eu defnyddio i ddechrau gwneud ymchwil i sut y byddai ymbelydredd yn gallu trin tiwmor a chancr. Roedd yn ymchwil meddygol pwysig iawn, ac mae triniaeth cancr heddiw yn llawer mwy effeithiol, diolch i waith cynnar Marie Curie.

Rhywbeth arall?

Hi hefyd wnaeth ddarganfod dull o ddefnyddio pelydrau ac oherwydd ei gwaith hi rydym yn gallu cael pelydr x heddiw. Mae pelydr x yn gadael i feddygon weld beth sydd yn digwydd y tu mewn i ni.

Bywyd Marie Curie

  • Cafodd ei geni yn Warsaw, Gwlad Pwyl. Roedd ei thad a'i mam yn athrawon.
  • Doedd dim hawl gan ferched i fynd brifysgol felly bu'n rhaid i'w chwaer a hithau astudio'n gyfrinachol.
  • Aeth ei chwaer i astudio i fod yn feddyg ym Mharis, a bu Marie yn gweithio er mwyn cael arian i'w chwaer fedru gwneud hynny.
  • Yna aeth Marie i Baris i brifysgol y Sorbonne i astudio ffiseg.
  • Wnaeth hi gyfarfod â Pierre Curie, oedd yn wyddonydd enwog iawn, a

    phriododd y ddau yn 1895. Cawsant ddwy ferch.
  • Er bod Pierre yn wyddonydd enwog iawn, roedd mor gyffrous gyda gwaith ei wraig fel y bu iddo ymuno efo hi gyda'i gwaith ymchwil hithau.
  • Enillodd Marie ddwy wobr Heddwch Nobel yn 1903. Hi oedd y wraig gyntaf erioed i ennill y wobr.
  • Bu farw Pierre mewn damwain ffordd yn 1906.
  • Aeth Marie ymlaen i ennill y wobr Heddwch Nobel eto yn 1911.
  • Daeth meddygon o bob rhan o'r byd i weithio ar driniaeth cancr gyda Marie Curie.
  • Defnyddiwyd peiriannau pelydr-x Marie Curie i drin nifer o'r milwyr oedd wedi eu hanafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Bu farw Marie Curie yn 1934 oherwydd effaith ymbelydredd.
  • Mae'r Ganolfan Curie a gafodd ei sefydlu gan Marie ym Mharis yn 1921 Marie a Pierre Curie yn parhau i wneud ymchwil i gancr.

7

BLE GAWN NI FYND HEDDIW...?

1. HELFA WYAU PASG

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

16eg – 22ain Ebrill 2019, rhwng 10.00 y bore a 4.00 y p’nawn

Wyt ti'n hoffi helfa drysor? Wel tyrd i'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis. Fe gei di wneud crefftau Pasg hefyd. Am hwyl!

2. GŴYL LLÊN PLANT CAERDYDD.

30ain Mawrth - 7fed Ebrill.

Bydd awduron a darlunwyr poblogaidd yn dod â chymeriadau'n fyw drwy straeon a darluniau, ac mae cyfle i ti fod yn rhan o'r hwyl i gyd! Mae'n digwydd mewn

lleoliadau trwy Gaerdydd, gan gynnwys Castell Caerdydd a'r Amgueddfa. Bydd cyfle i ti gwrdd â rhai o dy hoff awduron a darlunwyr. Dyma'r rhai fydd yn cymryd rhan - Manon

Steffan Ros, Malachy Doyle, Huw Aaron, Catherine Fisher, Rob Biddulph a Bethan Gwanas.

3. ANTUR YN Y GWYLLT!

Os felly mae Ymddiriedolaeth Natur Cymru yn trefnu nifer o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru. Beth am ymweld â'r Ganolfan Fywyd Gwyllt ger Aberteifi?

Yno cewch fynd ar antur a chwblhau helfa geocache, neu fynd ar goll yn y ddrysfa, neu efallai y cewch gyfle i wylio rhai o'r adar gwyllt o'r guddfan adar. Am fwy o fanylion ewch i -

https://www.welshwildlife.org/visitor-centres/the-welsh-wildlife-centre/

Ateb pos pen-blwydd Mam Tud 5:     Bydd Mam yn 34

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar ddydd Llun 6ed Mai. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

8