WYAU!

Mae'r Pasg drosodd unwaith eto, a'r wyau dros ben wedi eu rhoi yn y fasged fargeinion. Ond nawr yw'r amser i fynd am y traeth i chwilio am helfa WYch ym myd natur!

Mae wyau creaduriaid y môr a'u casys wyau i'w canfod ar hyd y glannau ac yn arWYdd sicr fod y gwanWYn ar y ffordd. Chwiliwch am bwrs y fôr-forwyn - casyn ŵy rhai o'r siarcod a'r morgathod sy'n byw yn ein moroedd. Bydd maint a siap yr wyau yn dweud wrthych pa rywogaeth sydd wedi ei ddodWY. Ar gasys wyau'r siarcod sydd o amgylch ein glannau ni, mae darnau cyrliog sy'n cydio'n sownd wrth wymon. Mae gan morgathod gyrn ar eu casys wyau nhw sy'n cydio yng ngwely'r môr neu dyllau mewn creigiau.

Felly - ewch amdani, chwiliwch am arWYddion o'r gwanwyn ar hyd y traeth. Pob lwc!

DŴR I LAWR Y DRAEN

Ers 400 mlynedd mae cerflun enwog y Manneken Pis yn ninas Brwsel wedi bod yn pi-pi rhwng 1,000 a 2,500 litr o ddŵr (sydd yn ddigon glân i'w yfed) i lawr y draen bob dydd. Dim ond yn ddiweddar mae dinas Brwsel wedi sylweddoli fod y cerflun wedi bod yn gwastraffu cymaint o

ddŵr, digon i 10 tŷ ei ddefnyddio. Mae peiriannwyr y ddinas wedi mynd ati i adeiladu ffos arbennig i gasglu dŵr y cerflun a’i ail-gylchu i arbed y gwastraff gwarthus, ac erbyn hyn mae’r bachgen bach direidus yn llawer mwy ecogyfeillgar!

WYTHNOS DYSGU
YN YR AWYR
AGORED CYMRU

Ym mis Ebrill cynhaliwyd Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored cyntaf Cymru. Bwriad yr wythnos oedd dathlu’r holl ddysgu awyr agored rhagorol sy’n digwydd yng Nghymru ac ysbrydoli athrawon, grwpiau dysgu a theuluoedd i wneud dysgu yn yr awyr agored yn rhan o fywyd ysgol a bywyd teuluol. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru:

Amgylchedd naturiol Cymru yw’r ystafell ddosbarth fwyaf sydd gennym ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn. Mae cysylltu â byd natur a’r byd naturiol yn fuddiol i ni ac i’r amgylchedd!

Roedd nifer fawr o ysgolion a grwpiau yn cymryd rhan yn yr wythnos a llawer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu; efallai fod dy ysgol di wedi gwneud rhywbeth? Un o’r digwyddiadau oedd dilyniant i’r Prosiect Miri Mes lle daeth nifer

o ysgolion at ei gilydd yng Nghoedwig Clocaenog i blannu coed derw. Un o’r grwpiau yno oedd Cyngor Eco Ysgol Caer Drewyn. Dyma oedd gan dri o'r plant i’w ddweud am y diwrnod: “Fe wnes i ddysgu llawer iawn am bwysigrwydd plannu coed. Roedd yn grêt gweld y mes yr oedden ni wedi eu casglu yn cael eu plannu mewn lle newydd, yn barod i’r dyfodol.” meddai Willow.
Yn ôl Freya “Fe wnes i fwynhau yn fawr iawn, roedd yn anhygoel. Fy hoff ran o’r profiad oedd creu cerfluniau allan o frigau a cherrig.”

Ychwanegodd Eden “Dw i’n meddwl ei fod yn bwysig iawn ein bod yn cymryd rhan mewn dyddiau fel hyn. Gês i lawer o hwyl ac roedd yn ddiwrnod gwych. Fe wnaethon ni lawer o weithgareddau fel mesur coed a phlannu coed.”

1

DYDDIAU I’R DYDDIADUR

Calan Mai

Yn draddodiadol dyma ddechrau'r haf ac roedd pobl ers talwm wrth eu boddau yn dathlu hyn drwy ganu, dawnsio a chymdeithasu ar ôl misoedd oer a thywyll y gaeaf. Credai pobl fod Calan Mai (fel Calan Gaeaf) yn amser lle'r oedd ysbrydion yn dod yn nes at y byd hwn a byddai pobl yn aml yn gwneud coelcerth i gadw’r ysbrydion drwg draw. Traddodiadau Calan Mai eraill yng Nghymru oedd casglu brigau’r ddraenen wen a dawnsio o amgylch polyn neu frigyn coeden wedi ei addurno, y ‘gangen haf’ neu ‘codi’r fedwen’.

Roger Bannister yn rhedeg milltir mewn llai na 4 munud

Ar 6ed Mai 1954 rhedodd Roger Bannister filltir mewn 3 munud 59.4 eiliad. Hwn oedd y tro cyntaf i rhywun redeg milltir mewn llai na 4 munud. Erbyn hyn Hicham El Guerrouj o wlad Moroco sy’n dal y record, a hynny mewn 3 munud 43.13 eiliad.

Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod
(Deaf Awareness Week)

Mwy am hyn yn erthygl ‘Ti’n Seren’ tud 6

Diwrnod Moroedd y Byd
(World Oceans Day)

Fe welwch fod thema’r môr a dŵr yn amlwg iawn yn y rhifyn yma o’r Cliciadur!

Nelson Mandela yn brif-weinidog du cyntaf De Affrica

Roedd y 10fed Mai 1994 yn ddiwrnod pwysig ac arwyddocaol iawn yn hanes De Affrica pan ddaeth Nelson Mandela yn brif-weinidog du cyntaf y wlad. Roedd hyn yn gam mawr ymlaen i wlad oedd wedi bod yn gweithredu system apartheid, lle nad oedd pobl ddu yn cael yr un hawliau â phobl wyn. Treuliodd Mandela 27 mlynedd yn y carchar am brotestio yn erbyn y system apartheid.

Wythnos Cerdded i’r Ysgol


-

Gŵyl y Gelli (Hay Festival)

Cyfle i weld awduron plant enwog fel Julia Donaldson, Michael Rosen, Chris Riddell, Lauren Child, Frank Cottrell- Boyce, Gill Lewis a llawer mwy….

-  

Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro

Pob lwc iti os wyt ti’n cystadlu!

Cyrraedd copa mynydd Everest

Ar 29ain Mai 1953 cyhoeddwyd ym mhapur newydd ‘The Times’ fod y dringwyr Edmund Hillary a Tenzing Norgay wedi cyrraedd copa mynydd ucha’r byd, Everest. Rhain oedd y bobl gyntaf i gyrraedd copa’r mynydd enwog hwn. Roedd Cymro o’r enw James Morris yn gweithio i’r Times fel gohebydd y daith, a fo oedd y cyntaf i adrodd y newyddion. Ysgrifennodd Morris neges mewn cod i’r papur newydd i rannu llwyddiant y daith:

2

MATH A'R MORLO

Roedd Math wrth ei fodd yn mynd ar y cwch efo Taid, roedd Taid yn adnabod pob rhan o'r glannau môr. Heddiw, roedd Taid am ddangos teulu o forloi i Math.

'Maen nhw'n gorwedd ar y creigiau draw fan acw.' meddai Taid gan bwyntio at y creigiau ger y lan. 'Fe awn ni ychydig yn nes, ac yna mi wna i ddiffodd yr injan, fel ein bod yn gallu eu gweld heb iddyn nhw ddychryn, mae yna lo bach yna hefyd, morlo bach gwyn.'

Ond pan aeth y cwch yn nes, doedd dim golwg o'r morloi. 'Hen dro, mae'n rhaid eu bod wedi ffeindio rhywle arall i dorheulo felly.' ochneidiodd Taid a throi trwyn y cwch bach yn ôl am adre.

Gwyliodd Math y gwylanod yn plymio o'r clogwyni. Waw! Roedden nhw'n chwim, ac yna gwelodd Math rywbeth ar waelod y clogwyn, rhywbeth yr un siâp a charreg, ond roedd

hwn yn symud.

'Taid, Taid, edrychwch, mae yna rywbeth ar waelod y graig, ac mae'n gwneud sŵn!' Ond ysgwyd ei ben wnaeth Taid 'Dim ond darn o hen blastig ydi hwnna, a'r gwylanod sy'n gwneud y sŵn, mae gormod o lawer o sbwriel plastig o amgylch y glannau.' meddai. Yna symudodd y siâp wedyn. Anelodd Taid drwyn y cwch yn nes, gan ofalu peidio mynd yn rhy agos at y creigiau

Diffoddodd yr injan, a gallai glywed y sŵn yn glir, morloi bach oedd yno, yn crio. Craffodd Math a gweiddi - 'O Taid, mae o'n sownd! Edrychwch, mae o wedi

mynd yn sownd yn y rhwydi plastig yna!' 'Ydi, dyna fo'r morlo bach.' meddai Taid gan rwbio ei ben yn drist. Yna aeth at y radio yn y caban

'Rhaid i ni ei achub Taid!' galwodd Math, ond roedd Taid yn siarad ar ei radio.
Daeth Taid yn ôl at ochr y cwch i aros.

'Mae pobl y sw môr ar eu ffordd, roedden nhw allan ar y môr yn barod, roedden nhw wedi deall fod y morlo bach ar goll. Maen nhw am ei alw'n Lwcus'.

Arhosodd Taid a Math i wylio Lwcus y morlo bach. Draw ar y creigiau sylwodd Taid fod morlo mawr wedi cyrraedd yn ôl i

orwedd, ac yn eu gwylio. 'Edrych Math, dwi'n meddwl fod ei fam draw yn fan acw.'

Yna daeth dingi oren i'r golwg a gwyliodd Math a Taid y ddau arbenigwr yn torri'r rhwydi ac yn helpu Lwcus i ddod yn rhydd. 'Fydd Lwcus yn iawn Taid?' holodd Math.

Wrth i'r cwch bach ddilyn y dingi i ffwrdd oddi wrth y creigiau, gwelodd Math sblash yn y dŵr, a phen llithrig yn nofio draw at y morlo bach

'Mi fydd hwn yn iawn Math, diolch i ti am fod mor graff.' Ond roedd Taid a Math yn gwybod na fyddai pob morlo bach mor ffodus â Lwcus.

Byddi di angen:

  • Balŵn
  • Powlen
  • Plât neu hambwrdd (tray)
  • Siswrn
  • Hylif lliwio bwyd
  • Halen

CELF RHEWLLYD RHYFEDDOL!

Dyma gyfle i wneud darn o gelf rhyfeddol wrth rewi dŵr mewn balŵn. Wrth ychwanegu dau beth at y rhew bydd arbrawf gwyddonol gwych yn digwydd o flaen dy lygaid!

3

Efallai dy fod wedi bod yn gwylio cystadleuaeth Côr Cymru ar S4C bob nos Sul, lle mae gwahanol fathau o gorau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gyrraedd y ffeinal. Tro’r corau Ysgolion Cynradd oedd hi ar y 6ed o Ebrill, gyda phedwar côr wedi cyrraedd y rownd derfynol yn Aberystwyth:

Ysgol Gymraeg Teilo Sant, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Ysgol Gymraeg Llangennech ac Ysgol Pen Barras. Yn y bocsys uchod mae teimladau rhai o aelodau’r côr a ddaeth i’r brig, sef Ysgol Teilo Sant.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos fod canu mewn côr yn llesol iawn i blant. Dyma 4 rheswm pan fod canu mewn côr yn dda i ti:

  • Cymdeithasu – Rwyt yn gallu cwrdd â ffrindiau newydd a dod i adnabod pobl wahanol. Mae’n beth da i weithio fel tîm wrth berfformio neu gystadlu.
  • Dy ymennydd yn tyfu – Mae dysgu a chofio alawon, geiriau a rhythm yn wych i greu llwybrau newydd yn dy ymennydd.
  • Cerddoriaeth – Dyma’r un mwyaf amlwg! Rwyt yn dysgu cerddoriaeth, nodau , rhythmau a sut i asio dy lais gydag eraill.
  • Diwylliant – – Rwyt yn gallu dysgu alawon a geiriau o wahanol rannau o’r byd a dysgu am brofiadau pobl eraill.

Llesol - rhywbeth sydd yn gwneud lles neu yn dda i chi.

Asio - (’blend’ yn Saesneg) Pan mae lleisiau yn ymuno gyda’i gilydd yr un pryd.

Beth ydi dy swydd di?

Rheolwr Moroedd Byw i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Dw i'n datblygu prosiectau cadwraeth forol, mae hynny'n golygu fy mod yn helpu pobl i edrych ar ôl y môr a'r arfordir. Dwi'n helpu pobl i ddysgu am fywyd gwyllt morol Cymru, ac i’w fwynhau. Dw i'n trefnu gweithgareddau fel chwilota mewn pyllau creigiog, teithiau cerdded, caiacio, snorclo a llawer mwy.

Lle byddi di'n gweithio fel arfer?

Ym Mangor rhan fwyaf o'r amser, ond gan ein bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru dw i hefyd yn cael mynd i Ganolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion yng Nghei Newydd. Weithiau dw i'n gweld dolffiniaid drwy ffenest y ganolfan felly dw i’n hoff iawn o fynd yno.

Rho ddisgrifiad o ddiwrnod gwaith.

Mae bob diwrnod yn wahanol ac weithiau dw i'n creu digwyddiadau. Mae yna lawer o waith trefnu. Ond dw i wrth fy modd ar y dyddiau pan fyddaf yn ymweld â glan y môr – i drefnu a chreu gweithgaredd, neu weithiau os oes rhywbeth diddorol wedi golchi i fyny ar y lan.

Pethau gorau am y gwaith?.

Mae'n waith prysur iawn a dw i'n gweithio mewn tîm gwych o bobl

sy'n hoffi bywyd gwyllt. Mae'n rhaid meddwl am syniadau ac adnoddau bob dydd, felly dwi'n dysgu o hyd. Ond y peth gorau ydi gweld wynebau pobl pan maen nhw'n gweld llamhidydd neu ddolffin am y tro cyntaf!

Oes pethau sydd ddim mor dda am dy waith?

Weithiau mae sefyllfaoedd anodd yn codi, pan mae bywyd gwyllt neu gynefinoedd mewn perygl ac mae’n anodd iawn gweld bywyd gwyllt wedi brifo – yn enwedig oherwydd llygredd.

Beth wnaeth i ti fynd i wneud y gwaith yma?

Roedd gen i ddiddordeb mewn bywyd gwyllt pan roeddwn i'n blentyn, roeddwn i wrth fy modd yn chwilota am fywyd gwyllt yn yr ardd a chefn gwlad. Yn y brifysgol mi wnes i wirfoddoli hefo grŵp cadwraeth forol. Roeddwn i eisiau mynd i'r Caribî i

weithio hefo siarcod, ond pan wnes i weld pa mor wych ydi bywyd gwyllt Cymru, roeddwn i wedi gwirioni - ac aeth y syniad o fynd i'r Caribî allan trwy'r ffenestr!

Beth wyt ti angen i wneud y gwaith yma?

Er fy mod i wedi bod i’r brifysgol i astudio Swoleg Môr ac Ecoleg dwi’n meddwl y peth pwysicaf ydi bod wedi dy ysbrydoli gan fyd natur. Gyda diddordeb mewn bywyd gwyllt daw’r dealltwriaeth sydd ei angen a gyda hynny daw’r awydd i’w warchod.

4

Beth ydi dy farn di am fagiau plastig?

Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ynysoedd Prydain i godi 5c am fagiau plastig un-defnydd mewn siopau. Beth yw eich barn chi am godi pris ar fagiau plastig un-defnydd? Dyma ddwy farn wahanol iawn -

ANTI DOT YN DWEUD

Paid â gwastraffu dŵr! Dyma ambell dip i ti a dy deulu ar sut i arbed dŵr -

PWYSO A MESUR

Cwis Rhifau Royal Charter

Mae 'na lawer o wybodaeth am drychineb y Royal Charter ar tud. 7 wedi ei roi mewn rhifau. Darllenwch y dudalen i ddarganfod beth yw arwyddocâd y rhifau canlynol:

5

Wyt ti wedi meddwl erioed beth fyddet ti'n ei wneud heb ddŵr? Wel yn syml iawn - fyddet ti ddim yma, na dim o dy amgylch di chwaith! Mae popeth byw angen dŵr i'w gynnal, ac yma yng Nghymru, diolch byth mae digon o ddŵr glân ar gael, ond mae dŵr yn werthfawr iawn, felly cau'r tap yna!

Oeddet ti'n gwybod nad oes yna'r fath beth â dŵr newydd? Meddylia - rydan ni'n yfed yr un dŵr oedd y deinosoriaid yn ei yfed!

Ffeithiau ffab!

Mae 70% o'r corff yn ddŵr. Felly, cofiwch yfed digon o ddŵr.

Dŵr hallt - mae 97% o ddŵr y ddaear yn y cefnforoedd a'r moroedd.

Mae 2% o ddŵr y ddaear mewn rhewlifoedd. Dim ond 1% sydd ar gael fel dŵr ffres.

Mae dŵr wedi ei greu o ddwy elfen Hydrogen ac Ocsigen, 2 Hydrogen +1 Ocsigen = H2O

Y Gylchred Ddŵr

Mae'r dŵr rydym yn ei ddefnyddio yn rhan o broses o'r enw'r gylchred ddŵr. Beth ydi'r gylchred ddŵr?

Anweddu

Mae gwres yr haul yn achosi i ddŵr ar y ddaear anweddu, hynny yw, mae'r dŵr (sydd yn hylif) yn newid i anwedd dŵr (sydd yn nwy).

Cyddwyso

Mae annwedd o'r môr yn creu cymylau. Os yw'r awyr yn oer mae'r anwedd dŵr yn oeri ac yn

troi'n ôl yn hylif.

Dyddodiad neu Glawiad

Bydd y diferion dŵr yn y cwmwl yn disgyn fel glaw, eira neu gesair (cenllysg).

Casgliad

Mae'r dŵr sy'n disgyn yn casglu mewn llynnoedd, moroedd ac afonydd ac yn treiddio i'r ddaear.

Enw: Nel Mai

Oed: 14

Ysgol: Tryfan, Bangor

Fy hanes i:
Cefais wybod fy mod yn fyddar pan yn dair a hanner ar ôl gweld sawl arbennigwr. Roeddwn wedi pasio 2 brawf clyw!!!! Mae ngholled clyw yn un difrifol ac mae’n effeithio ar y ddwy glust. Dwi’n gwisgo 2 gymhorthydd clyw drwy’r amser ac mae genai FM mic yn yr ysgol sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr athrawon i ddanfon eu llais yn syth i fy nghlustiau.
Yn yr ysgol mae gennyf gymorthydd sef Miss Lois Wyn

Hughes – mae hi yn amazing. Mae hi’n fy nghynorthwyno efo fy ngwaith ysgol ond mae hefyd yn ffrind agos i mi.

Diddordebau:
Dwi’n hoff iawn o ymarfer corff – dwi’n ymarfer rhedeg bob nos Lun gyda chriw bach o ffrindiau. Mae rhedeg yn bwysig iawn i mi gan mai fy mheth i fy hun ydio.

Dwi’n un o efeilliaid a dwi a Myfi yn agos iawn, dwi’n hoffi treulio amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau, yn mynd i siopa am ddillad a mynd i’r sinema. Does dim yn fy nal yn ôl.

Hoff bynciau yn yr ysgol:
Addysg Gorfforol wrth gwrs! Ond dwi’n hoff iawn o gelf hefyd. Dwi’n mwynhau ffotograffiaeth yn fawr iawn ac mae pynciau gweledol yn bwysig i mi.

Lle fyddi di mewn 10 mlynedd?:
Dwi ddim yn siwr o ble yr hoffwn fod ymhen 10 mlynedd – mae’n amser hir! Ond mae codi ymwybyddiaeth o fyddardod yn bwysig iawn gan nad yw’n anabledd corfforol – dwi’n gallu gwneud pob dim fel pawb arall! Dwi’n teimlo ei bod yn bwysig fod dim yn fy rhwystro a fy mod yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall felly - gwyliwch allan amdana i. 😊

Mi fydd Y Cliciadur yn dy wylio di! Bydd Nel ar raglen Stwnsh ar S4C yn fuan. Pob lwc Nel!

6

TRYCHINEB
Y ROYAL CHARTER

Gydag arfordir Cymru yn ymestyn dros 750 milltir, mae’r môr wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ein hanes fel cenedl. Mae llawer iawn o drychinebau wedi digwydd yn y moroedd o amgylch Cymru ond mae’n debyg mae’r enwocaf ydy’r hanes ofnadwy am long y Royal Charter oedd yn hwylio oddi ar arfordir Moelfre, Ynys Môn, ar noson stormus o Hydref ym 1859....

Roedd y Royal Charter yn hwylio o Awstralia i borthladd Lerpwl ac ar ei bwrdd roedd aur, gwlân a theithwyr cyfoethog. Ar ôl croesi yn ddiogel o ochr arall y byd roedd y Royal Charter yn hwylio heibio pentref Moelfre, ar ran olaf ei thaith hir, pan gododd storm enbyd. Hyrddiwyd y llong ar donnau anferth a’i thaflu ar greigiau oedd ddim ond deunaw metr (18m) o’r lan. Ceisiodd y criw ollwng dau angor a thorri’r mastiau i gadw’r llong rhag symud, ond torrodd y cadwyni a drylliwyd y llong ar y creigiau. Wrth i’r wawr dorri nofiodd morwr dewr o Malta o’r enw Guze Ruggier (neu Joseph Rogers fel oedd yn cael ei adnabod) o’r llong at y lan gyda rhaff o amgylch ei ganol.

Llwyddwyd i achub rhai oddi ar y llong drwy ddefnyddio cadair achub* a ffurfiodd rhai o bentrefwyr Moelfre gadwyn ddynol* i mewn i’r môr i achub eraill. Fodd bynnag, dim ond 40 gafodd eu hachub, gyda thua 450 yn colli eu bywydau o fewn tafliad carreg o’r lan.

*cadair achubBosun’s chair. Cadair oedd yn cael ei symud ar hyd rhaff er mwyn achub pobl

*cadwyn ddynol – lle mae pobl yn gafael ym mreichiau ei gilydd fel cadwyn. Mae un ochr o’r gadwyn yn aros ar y lan a’r ochr arall yn mynd allan i’r môr i achub pobl.

CYMERIADAU ERAILL Y ROYAL CHARTER

Isaac Lewis:

Roedd Isaac Lewis yn fachgen ifanc o bentref Moelfre oedd yn gweithio fel morwr ar y Royal Charter. Yn ôl yr hanes roedd y llong mor agos i’r lan pan gafodd ei ddryllio fel bod Isaac Lewis yn gallu gweld ei dad yn sefyll ar y traeth, a gwaeddodd allan ato...
“O nhad, dwi wedi dod adra i farw” Collodd Isaac Lewis ei fywyd pan aeth y llong yn ddarnau, ac er iddo deithio'n ddiogel bob cam o ben draw’r byd fe olchwyd ei gorff i'r lan o fewn can llath i ddrws ei gartref.

Y Parch Stephen Roose Hughes:

…oedd ficer eglwys Llanallgo oedd gerllaw safle’r llongddrylliad. Trefnodd Stephen Hughes fod y cyrff marw yn cael eu cludo i’r eglwys a’u claddu yno. Ysgrifennodd dros 1000 o lythyrau i deuluoedd y rhai a gollodd ei bywydau yn cydymdeimlo â nhw yn eu colled. Mae llawer yn meddwl fod y pwysau a’r straen o wneud y gwaith ofnadwy yma wedi achosi marwolaeth Stephen yn ddyn ifanc yn 1862.

YSBRYDOLIAETH

Mae hanes y Royal Charter wedi ysbrydoli llawer o artistiaid ac awduron gan gynnwys Charles Dickens, a ddaeth i Foelfre i siarad gyda’r pentrefwyr ar ôl y drychineb, a T.Llew Jones a ysgrifennodd y nofel ‘Ofnadwy Nos’ amdano.

Dyma ddarlun ‘The Volunteer’ gan yr artist Henry O’Neill, oedd yn ffrind i Charles Dickens. Mae’r llun wedi ei ysbrydoli gan Guze Ruggier y morwr dewr a nofiodd i’r lan gyda’r rhaff.

Mae Tom Russell y canwr gwerin o America wedi canu can am stori Isaac Lewis, ac Elin Fflur hefyd wedi canu fersiwn ohoni. Gwrandewch yma:

Gyda diolch i Tom Russel, Frontera Music. ASCAP. www.tomrussell.com, Henry Priestman ac Elin Fflur.

7

BLE GAWN NI FYND HEDDIW...?

Mae thema’r môr yn amlwg yn ein syniadau am ble i fynd yng Nghymru yn Rhifyn 8....

1. SeaQuarium, Rhyl

Dyma acwariwm mwyaf Gogledd Cymru. Gallwch gerdded drwy dwnnel danforol i weld siarcod, morloi, slefrod a phob math o greaduriaid eraill o’r môr.

2. Sŵ Môr Brynsiencyn, Ynys Môn

Dewch i ymweld â dros 40 tanc o greaduriaid y môr fel octopws, cimwch a march y môr. Dysgwch hefyd am gynefinoedd o amgylch moroedd Cymru a’r gwaith pwysig o’u gwarchod.

3. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe

Dewch i archwilio hanes morwrol Abertawe a Chymru yn yr amgueddfa ddiddorol hon sydd yn rhan o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru. Mynediad am ddim!

4. Glanhau Traethau

Mae’n bwysig ein bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb dros gadw’r arfordir hardd o amgylch Cymru yn lân. Beth am ymuno â’r digwyddiadau canlynol i lanhau traethau?

4a Llanussyllt (Saundersfoot) Sir Benfro – Dydd Sul, 12fed Mai, 10:00am

4b Caerbwdi, Sir Benfro – Dydd Sadwrn, 8fed Mehefin, 2:00pm

4c Rhosili, Gŵyr – Dydd Sadwrn, 21ain Medi, 12.30pm.

GEMAU RHAGBROFOL

EWRO 2020

Mae ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth gemau Ewro 2020 wedi cychwyn yn dda drwy guro Slofacia 1-0 yng Nghaerdydd ar 24ain Mawrth. Sgoriodd Dan James ei gôl gyntaf i Gymru a hynny yn ei gêm gystadleuol gyntaf i'r tîm cenedlaethol. Ond er i Gymru ennill, bu'n rhaid i Wayne Hennesey a'r amddiffyn weithio'n galed i rwystro Slofacia

rhag sgorio.
Yn wahanol i'r gemau blaenorol bydd y gemau yma yn cael eu chwarae mewn 12 dinas, mewn 12 gwlad Ewropeaidd. Bydd y ffeinal yn cael ei chwarae yn stadiwm Wembley, Llundain. Cofia hefyd am gêm nesaf tîm pêl-droed merched Cymru fydd yn herio merched Seland Newydd yng Nghaerdydd ar Fehefin 4ydd. Pob lwc ferched.

TABL GEMAU CYMRU AR GYFER Y ROWNDIAU RHAGBROFOL EWRO 2020

Dan James

Enw: Daniel Owen James

Dyddiad geni: 10/11/1997

Man geni: Beverley, Lloegr. Mae'n cael chwarae i Gymru am fod ei dad o Aberdâr.

Safle: Asgellwr

Tîm: Yr Elyrch, Abertawe

TYWYSOGES TAEKWONDO!

Mae'r Gymraes Lauren Williams o'r Coed Duon wedi ei dewis i sgwad y Deyrnas Unedig ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd ym Manceinion o’r 15fed-19eg o Fai eleni. Cafodd Lauren ei hysbrydoli i roi cynnig ar Taekwondo ar ôl gwylio Jade Jones o’r Fflint yn ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Bu’n rhaid iddi fyw mewn carafán am gyfnod i wireddu ei breuddwyd o fod yn rhan o dîm y DU. Pob lwc Lauren!

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar ddydd Llun 17eg Mehefin. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

8